Mae heddlu yn Llundain sy’n chwilio am fargyfreithiwr o Sir Benfro, wedi dod o hyd i gorff.

Y gred yw y gallai Gianni Sonvico, 23, a oedd yn byw yn Islington, fod wedi syrthio i afon Tafwys ar Hydref 25.

Fe gafodd plismyn eu galw i Bier Greenwich fore Gwener, Tachwedd 8, ar ôl i gorff gael ei weld yn y dwr.

Mae teulu Gianni Sonvico, sy’n hanu o ardal Wdig, wedi cael ei hysbysu.