Rhodri Morgan
Mae cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi dweud fod yr ymgyrch ‘Na’ yn mynd ati’n fwriadol i geisio cadw nifer y pleidleiswyr yn isel.

Dywedodd Rhodri Morgan fod mudiad Gwir Gymru yn gwybod nad ydyn nhw’n mynd i ennill y refferendwm wythnos i heddiw ar ragor o ddatganoli yn y Cynulliad.

Eu nod nhw oedd argyhoeddi pleidleiswyr i aros adref ac yna honni nad oedd y canlyniad yn cynrychioli barn y bobol, meddai.

Penderfynodd mudiad Gwir Gymru beidio â gwneud cais i’r Comisiwn Etholiadol am statws ymgyrch ‘Na’ swyddogol.

Sgil effaith hynny ond nad oedd yr ymgyrch ‘Ie’ yn cael statws swyddogol chwaith, ac felly doedd dim arian na hysbysebion am ddim ar y teledu i hyrwyddo eu hachos.

Ond ychwanegodd Rhodri Morgan nad oedd yn pryderu na fyddai llawer iawn o bobol yn pleidleisio yn y refferendwm.

Roedd y Blaid Lafur wedi cynnwys addewid i roi rhagor o bwerau deddfu i’r Cynulliad yn eu maniffesto yn Etholiad Cyffredinol 2005, felly roedd pobol Cymru wedi ei gefnogi beth bynnag, meddai.

“Rydw i’n drwgdybio eu bod nhw wedi meddwl ‘does dim siawns o ennill, felly beth am geisio cadw nifer y pleidleiswyr yn isel,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.

Dywedodd fod y refferendwm yn “glwyd wedi ei greu gan y Blaid Lafur”.

“Os nad ydi pobol yn teimlo’r gryf am y peth, dydyn nhw ddim yn teimlo’n gryf am y peth,” meddai.