Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi annog y Gweinidog Iechyd i ymyrryd gyda thoriadau Hywel Dda i driniaethau orthopedig dros y gaeaf, trwy osod cap ar amseroedd aros.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ei fod yn gohirio llawdriniaethau orthopedig sydd wedi eu trefnu o flaen llaw mewn pedwar ysbyty dros y gaeaf.

Mae Carwyn Jones wedi cefnogi’r cynlluniau gan ddweud eu bod yn “synhwyrol” ond eto’n pwysleisio y bydd y mwyafrif o lawdriniaethau orthopedig dydd yn parhau.

Mae’r undeb gwasanaeth iechyd Unsain, yn rhybuddio y gallai canslo triniaeth ychwanegu hyd at chwe mis at amseroedd aros, sydd eisoes yn faith i’r sawl sy’n disgwyl am driniaethau orthopedig.

Amser aros

Mae Leanne Wood wedi galw ar y Gweinidog Iechyd i gapio amseroedd aros a rhoi’r dewis i gleifion o gael eu trin yn rhywle arall os nad yw’n bosib cynnal y cap yn lleol.

Cododd arweinydd Plaid Cymru yr awgrym gyntaf yn ystod cwestiwn brys i Weinidog Iechyd Llafur ar Hydref 23 ac yn ôl Leanne Wood: “Rhaid rhoi’r flaenoriaeth yma i gleifion yn ardal Hywel Dda dderbyn lefel barchus o wasanaeth. Ni fyddai’n dderbyniol i gleifion ddioddef oherwydd cynigion iechyd gaeaf y bwrdd iechyd.

“Roeddwn yn siomedig, pan godais yr awgrym hwn yn wreiddiol, fod y Gweinidog Iechyd Llafur wedi lansio ymosodiad ar ystadegau unsain yn lle gweithio yn gadarnhaol i amddiffyn cleifion rhag gorfod aros yn rhy hir.

“Yn hytrach na chwarae gemau gwleidyddol, dylai Llafur fod yn cynnig atebion cadarnhaol er mwyn lleihau amseroedd aros.

“Mae’n bosib gwneud i’r cap ar amseroedd aros weithio; y disgwyl yw y bydd baich gwaith llawfeddygon orthopedig yn Hywel Dda yn gostwng o draean dan gynllun y gaeaf.

“Felly mae’r adnoddau staffio i driniaeth gael ei wneud yn rhywle arall dros dro eisoes yn bod. Mae modd darganfod atebion creadigol os yw pobl yn barod i weithio gyda’i gilydd.”