Sigarets - eisiau gwarchod plant
Mae’n bosib y bydd smygu’n cael ei wahardd o dir ysbytai yng Nghymru ac y bydd cynghorau lleol yn cael eu hannog i sefydlu meysydd chwarae di-fwg.
Mae’r ddau syniad yn rhan o Gynllun Gweithredu Rheoli Tybaco sy’n dechrau ar gyfnod o 12 wythnos o ymgynghori.
Un nod yw sicrhau y bydd canran y rhai sy’n smygu yng Nghymru’n dod i lawr o 24% i 16% erbyn 2020 ond mae yna ganolbwyntio hefyd ar sicrhau bod plant yn osgoi effeithiau mwg pobol eraill.
Mae’r mudiad gwrth-smygu ASH eisoes wedi croesawu’r Cynllun gan ddweud bod ei gyhoeddi ddoe yn “ddiwrnod hanesyddol i Gymru”.
Gwahardd o feysydd chwarae?
Os bydd yr argymhellion yn cael eu derbyn, fe fyddai disgwyl i awdurdodau lleol drefnu i wahardd smygu o rai meysydd chwarae i blant ac i hybu trafodaeth gyda rhieni am smygu mewn ceir sy’n cludo plant.
Yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru, Tony Jewell, dyma’r cam amlwg nesa’ ar ôl i Gymru arwain y ffordd gyda gwahardd smygu mewn adeiladau cyhoeddus.
“Rydym yn teimlo ei bod yn briodol mynd ati’n nawr i hyrwyddo dulliau newydd o amddiffyn plant ymhellach rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law,” meddai.
“Bydd sicrhau nad yw plant yn dod i gysylltiad â mwg ail-law yn helpu i’w hamddiffyn,” meddai. “Ac fe fydd hyrwyddo ceir di-fwg ar gyfer cludo plant yn tynnu sylw rhieni at beryglon smygu o flaen eu plant. All plant ddim amddiffyn eu hunain.”
Cyfrifoldeb y Gwasanaeth Iechyd
Mae’r Cynllun yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i roi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i weithredu ymhellach, gan gynnwys defnyddio trethi i godi pris tybaco a rheoli’r cysylltiad y mae plant yn ei gael gyda marchnata sigaréts.
Ond mae hefyd yn tynnu sylw at gyfrifoldeb y Gwasanaeth Iechyd ei hun trwy awgrymu gwahardd ysmygu o’r tir o amgylch ysbytai lle mae cleifion a staff yn casglu.
“Dylai’r Gwasanaeth Iechyd osod esiampl o safbwynt creu amgylcheddau di-fwg a chynorthwyo staff i roi’r gorau i smygu,” meddai Tony Jewell.
“Dylai’r Gwasanaeth hefyd annog cleifion i roi’r gorau i smygu, ac yn arbennig cyn llawdriniaethau.”
Yn ôl ffigurau’r Llywodraeth mae tua 5,650 o bobol yn marw o effeithia smygu yng Nghymru bob blwyddyn, a’r gost o drin afiechydon smygu’n costio £386 miliwn.