Fe fydd pentref yn Ynys Môn heddiw yn lansio ymgyrch i geisio gwahardd masnachwyr rhag galw draw i dai pobl yn ddiwahoddiad.
Llandegfan fydd y pentref cyntaf yng Nghymru i wahardd galwadau drws diwahoddiad wedi i ymgynghoriad gan y cyngor ddarganfod fod 97% o’r trigolion o blaid hynny.
“Does ‘na ddim croeso i alwadau gan bobl yn ddiwahoddiad ym mhentref Llandegfan,” yn ôl y cynghorydd lleol, Carwyn Jones.
Bydd y gwaharddiad yn dod i rym heddiw a bydd posteri yn ymddangos mewn tai, siopau ac ar y ffordd i rybuddio’r galwyr.
‘Bwydo ar bobl fregus’
“Mae canran uchel o bobol Llandegfan yn oedrannus, a’r galwyr diwahoddiad yn manteisio arnyn nhw,” meddai Carwyn Jones.
“Roedd ’na gwynion di-ri i adran Safonau Masnach ac un achos o ddyn yn cael ei garcharu am ddwy flynedd wedi iddo dwyllo dynes o £2,500 am drwsio llechen ar ei tho.
“Maen nhw’n bwydo ar y bobol fwyaf bregus yn y gymuned.”
Bydd y gwaharddiad yn cael ei lansio yn neuadd bentref Llandegfan am 11 y bore, ddydd Llun.