Mewn ymdrech i leihau nifer y bobol ifanc sy’n cael damweiniau mewn ceir, mae Llywodraeth Prydain yn trafod codi’r oedran y gall ymgeiswyr sefyll eu prawf gyrru o 17 i 18.

Awgrym y Llywodraeth yw rhoi cyfnod prawf i yrwyr yn eu blwyddyn gyntaf o yrru ar ben eu hunain. Bydd hyn yn cynnwys:

  • gyrru o dan oruchwyliaeth am 100 awr o’r dydd ac 20 awr yn ystod y nos.
  • dim hawl i yrwyr o dan 30 i gludo person arall o dan 30 heb oruchwyliaeth.
  • gwaharddiad o yrru rhwng 10 y nos a phump y bore, os nad oes person dros 30 yn y car.

Mae’r trafodaethau hefyd ynglŷn â gwahardd ffonau symudol, gan gynnwys ffonau sy’n rhydd o’r llaw (hands-free), a chyfyngiadau pellach ar yfed alcohol a gyrru.

Profiad

Mae ystadegau yn dangos fod un o bob pump o’r marwolaethau ar ffyrdd Prydain yn yr oedran 17-24.

Dywedodd yr Athro Stephen Glaister, cyfarwyddwr sefydliad RAC:

“Mae pobol ifanc yn llawer mwy tebygol o farw mewn damwain ffordd oherwydd yfed a chyffuriau. Ond, fel cymdeithas, rydym i weld yn troi ein cefnau ar hyn. Os bysai’r ffigyrau yma mewn adran arall o iechyd cyhoeddus byddai cwynion mawr.”

“Mae llawer o bethau yn erbyn gyrwyr ifanc – diffyg profiad yn un, sy’n golygu bod un rhan o bump yn cael damwain yn ystod eu chwe mis cyntaf o yrru ar ôl pasio eu prawf. ”

Mae disgwyl i weinidogion gyhoeddi manylion ynglŷn â’r cynllun gan Adran Ymchwil Trafnidiaeth mewn papur gwyrdd.