Bydd tair ras redeg wahanol yn cymryd lle yng Nghaerdydd dros y penwythnos ac mae Cyngor Caerdydd yn annog pobl i fod yn ymwybodol o’r trefniadau traffig.

Dydd Sadwrn, bydd Ras Hwyl i’r Teulu yn cael ei chynal yng nghanol y ddinas o 2pm.

Hefyd ar y dydd Sadwrn bydd Pencampwriaeth Ras Ffordd Filltir Cymru yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yng Nghaerdydd.

Dydd Sul

Fory, fe fydd mwy o bobol yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd nag erioed o’r blaen gyda 19,000 wedi cofrestru i gymryd rhan.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Ramesh Patel: “Pob lwc i’r miloedd o bobl sy’n rhedeg Hanner Marathon Caerdydd, y Ras Hwyl i’r Teulu a Ras Ffordd Filltir Cymru y penwythnos yma.

“Mae’n ffantastig bod cymaint o bobl yn helpu i godi arian i elusennau o’u dewis. Mae Hanner Marathon Caerdydd yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd, gyda 19,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer y ras eleni.

“Mae’r ras yn sicr wedi tyfu dros y blynyddoedd, o lai na 1,500 o redwyr yn 2003 i 18,000 yn 2012. Ffyrdd ar gau Ond bydd nifer o ffyrdd ar gau yn ystod y penwythnos oherwydd y tair ras.

Ffyrdd ar gau

* Rhwng 6yb ddydd Iau 3 Hydref a 6yh ddydd Llun 7 Hydref 2012, Rhodfa’r Brenin Edward VII o’r ffin â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas.

* Rhwng 6yb ddydd Gwener 4 Hydref a 6yh ddydd Sul 6 Hydref 2012 – Rhodfa’r Brenin Edward VII (i’r gogledd o’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas), Heol Neuadd y Ddinas, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Bydd ffyrdd ar gau hefyd wrth i’r ras hanner marathon fynd rhagddi rhwng 8yb a 2yp.