Elan Grug Muse, un o'r beirdd sy'n cymryd rhan heddiw
Fel rhan o Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth Cymru, mae Llenyddiaeth Cymru wedi gosod her ger bron pedwar bardd i greu cant o gerddi gwreiddiol o fewn 24 awr.

Mae’r beirdd ifanc Elan Grug Muse, Sion Pennar, Gruffudd Antur ac Elis Dafydd wedi bod wrthi ers hanner nos neithiwr ac wedi cyrraedd cerdd rhif 20 hyd yn hyn.

Ar gyfartaledd, mae hyn yn golygu y bydd angen i bob bardd ysgrifennu 25 cerdd yr un, tua un gerdd bob awr am 24 awr.

Meddai llefarydd o Lenyddiaeth Cymru cyn dechrau’n her: “Mae’r beirdd wedi prynu coffi, a matsys i ddal eu llygaid ar agor, ac yn barod i fynd.”

Dywedodd Gruffudd Antur ar y Post Cyntaf: “Y gobaith ydi medru dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth mewn ffordd greadigol a chreu cyswllt rhwng y bardd a’r darllenwr. Mi fyddwn ni’n gofyn i bobol roi syniadau i ni am beth i sgwennu.”

Y llynedd oedd y flwyddyn gyntaf i Her 100 Cerdd gael ei chynnal, pan lwyddodd tîm Talwrn Y Glêr i bostio’r canfed cerdd ar y wefan gyda munud i sbario.

Gellir darllen y cerddi ar wefan Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru.