Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ym Mangor heno i drafod sefydlu Menter Iaith yno er mwyn hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg.

Dangosodd ffigyrau’r Cyfrifiad diwethaf bod y nifer y siaradwyr Cymraeg yn y ddinas wedi syrthio 10% mewn degawd – o 45% yn 2001 i 35% erbyn 2011.

Mae pryder hefyd ynglyn â’r cynlluniau gan Gyngor Gwynedd i godi 25 o dai yn ardal Penrhosgarnedd – un o’r ychydig lefydd ym Mangor lle mae’r Gymraeg dal i’w chlywed ar y stryd.

Angen cefnogaeth

Syniad dwy o Gynghorwyr Plaid Cymru yw Menter Iaith Bangor.

Mae Mair Rowlands ac Elin Walker Jones yn awyddus i ddenu busnesau lleol i gefnogi’r fenter. Dywedodd y Cynghorydd Mair Rowlands:

“Rydyn ni’n awyddus i adeiladu rhwydweithiau a sicrhau cefnogaeth ariannol gan gydweithio ag eraill i hybu’r Gymraeg, gan ystyried nodweddion unigryw y ddinas.”

Ychwanegodd bod trafodaethau cynnar wedi eu cynnal â Phrifysgol Bangor, Canolfan Bedwyr, Urdd Gobaith Cymru, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor a Pontio.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal heno yng nghlwb pêl-droed Bangor am 7yh.