Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lleisio pryder am ddiffyg uchelgais rheolwyr BBC Cymru dros eu gwasanaethau Cymraeg.

Mae’r mudiad iaith yn galw am sefydlu darparwr Cymraeg annibynnol newydd wedi i Radio Cymru gynnal sgwrs genedlaethol am sut y dylai’r gwasanaeth ddatblygu dros y blynyddoedd i ddod.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i’r sgwrs gan ddadlau bod y ffaith bod y gorfforaeth wedi dyblu nifer y gorsafoedd Saesneg maen nhw’n darlledu yng Nghymru ers dechrau’r nawdegau yn profi nad yw’r BBC yn ddigon ymroddedig i’w gwasanaethau Cymraeg eu hiaith.

Oherwydd hynny, mae’r mudiad yn galw am ddarparwr Cymraeg newydd sydd yn annibynnol o’r BBC.

‘Eilradd’

Meddai Cymdeithas yr Iaith mewn datganiad: “Ni allwn ymddiried yn y BBC i sicrhau dyfodol darlledu yn Gymraeg wedi iddi drin ei gwasanaethau Cymraeg yn eilradd i’r rhai Saesneg am ddegawdau.

“Dylai’r BBC ryddhau cyllid o’i choffrau i sefydlu gwasanaethau rhyngweithiol newydd gan ddarparwr amlgyfrwng annibynnol, yn rhydd o unffurfiaeth Brydeinig y BBC.”

Mewn neges at y BBC, meddai cadeirydd grŵp darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Greg Bevan: “Pryderwn yn fawr nad yw rheolwyr y BBC yng Nghymru yn gwneud digon i frwydro dros ehangu gwasanaethau Cymraeg y gorfforaeth fel y dylen nhw.

“Fel corfforaeth, mae’r BBC wedi methu â chyflawni dros y Gymraeg.

“Nid ydym yn argyhoeddedig bod rheolwyr y BBC, yn dilyn y sgwrs genedlaethol, yn mynd i geisio am ddigon o arian i sicrhau y caiff y gwasanaeth ei ehangu’n ddigonol.

“Argymhellwn yn gryf felly y dylid sefydlu darlledwr aml-gyfryngol newydd a fydd yn rhydd o geidwadaeth a diffyg uchelgais y BBC.”

‘Gwerthfawrogi’r cyfraniadau’

Dywedodd y BBC mewn datganiad eu bod nhw wedi cael ymateb “sylweddol” i Sgwrs Radio Cymru, a lansiwyd ym mis Ebrill.

Meddai’r datganiad: “Mae’r Sgwrs, sy’n cyd-fynd â’r prosiect ymchwil radio mwyaf erioed yng Nghymru, wedi annog gwrandawyr a sefydliadau, fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, i rannu eu barn ynglŷn â phob agwedd o’r orsaf ac mae BBC Cymru yn gwerthfawrogi cyfraniadau’r holl unigolion a sefydliadau sydd wedi bod mor barod i wneud hynny.

“Ers y gwanwyn mae BBC Cymru wedi bod yn casglu’r holl ymatebion ac yn eu hystyried ochr yn ochr â’r ymchwil sy’n cael ei gynnal. Y nod yw amlinellu’r strategaeth ar gyfer Radio Cymru yn yr hydref.”

Ychwanegodd Greg Bevan: “Mae’r BBC yn sefydliadol wrth-Gymraeg. Ar ôl dyblu nifer y gorsafoedd radio Saesneg yng Nghymru, maent yn torri cyllid ac oriau yr unig orsaf radio Cymraeg yn y byd.

“Os yw’r Gymraeg i fyw rhaid i ni fynnu ein cyfryngau rhydd ac annibynnol ein hunain.”