Ysbyty Eglwys Newydd, Caerdydd
Gallai llofruddiaeth dynes gan ddyn oedd yn dioddef o sgitsoffrenia paranoiaidd fod wedi ei osgoi yn ôl  adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Fe ymosododd John Michael Constantine ar  Karen Welsh yn ei chartref yng Nghaerdydd rhwng 28 Chwefror a 2 Mawrth 2010, wedi iddi gynnig lle  iddo aros tra’r oedd yn ddigartref.

Roedden nhw wedi cwrdd yn Ysbyty’r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd pan oedd hi’n cael triniaeth am iselder.

Cafwyd John Michael Constantine yn euog o ddynladdiad yn 2011 ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Roedd yr adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru  yn edrych ar y gofal a’r gefnogaeth a gafodd ei roi i John Michael Constantine a sut cafodd hyn effaith ar farwolaeth Karen Welsh.

Mae’r adroddiad wedi amlygu pryderon ynglŷn â chyfathrebu rhwng y prif asiantaethau a’r gofal a’r driniaeth a roddwyd iddo.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi 14 o argymhellion ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a roddwyd i John Michael Constantine sy’n cynnwys argymhellion i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, y Gwasanaeth Prawf, yr Heddlu a Llywodraeth Cymru.

‘Pryderon’

Meddai prif weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Kate Chamberlain: “Amlygodd ein hadroddiad bryderon ynglŷn â’r broses o asesu a monitro John Constantine gan asiantaethau statudol.

“Yn ein hadroddiad am ddynladdiadau a gyflawnwyd ym mis Hydref 2005 nodwyd argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn archwilio darpariaethau ar gyfer asesu a thrin y bobl hynny sy’n dioddef o anhwylder personoliaeth gyda’r bwriad o sefydlu gwasanaethau perthnasol.

“Mae’n siomedig felly mai canlyniad diagnosis cyntaf John Constantine o fod ag anhwylder personoliaeth oedd iddo gael ei ryddhau heb sefydlu unrhyw gynlluniau gofal na threfniadau ar gyfer asesiad risg pellach a thriniaeth.”