Heini Gruffudd
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn mynd i wneud toriadau pellach i’r cyllid maen nhw’n ei roi i Fentrau Iaith yn y sir.

Mae Mentrau Iaith Bro Dinefwr, Cwm Gwendraeth a Gorllewin Sir Gâr eisoes wedi gweld toriad o 10% i’w cyllid gan yr awdurdod lleol ond bydd toriad arall o 20% yn digwydd yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Dywedodd Heini Gruffudd o fudiad Dyfodol i’r Iaith ar y Post Cyntaf ei fod yn “siomedig” gyda’r newydd.

“Yn Sir Gar, mae ‘na broblemau sylfaenol iawn,” meddai Heini Gruffudd. “Maen nhw’n colli un o bob pedwar plentyn sy’n cael addysg gynradd Gymraeg i addysg uwchradd Saesneg, maen nhw’n gwneud penderfyniadau cynllunio sy’n niweidiol i’r Gymraeg ac wedyn mae’r iaith gweinyddu fewnol  yn Saesneg.

“Mae’n rhaid datrys y pethau yma ac mae sôn am gwtogi 20% i fentrau Iaith, sy’n amlwg yn gefnogol iawn i’r iaith, yn hynod siomedig.”

Er ei fod yn derbyn ei bod hi’n gyfnod anodd, yn ariannol, i gynghorau lleol, ychwanegodd Heini Gruffudd bod gan y  cyngor “weithgor ar hyn o bryd sy’n edrych ar y Gymraeg, a sut mae gwella darpariaeth y Gymraeg ac mae’r penderfyniad am dorri arian fel hyn cyn i’r gweithgor wneud ei waith yn un rhyfedd iawn.”

Ymateb y Cyngor

Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin mewn datganiad bod yr arian maen nhw wedi ei dorri o gyllideb y Mentrau Iaith wedi ei neilltuo ar gyfer “mynd i’r afael â’r materion a ddaw i’r amlwg o ganlyniad i waith Gweithgor y Cyfrifiad.”

Ychwanegodd y datganiad: “Mae’r Cyngor yn wynebu penderfyniadau ariannol anodd, ac yn anffodus, mae’n rhaid edrych ar bob gwariant ar draws yr adrannau”.

Yn ôl ffigurau’r cyfrifiad diwethaf,  mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir wedi gostwng i lai na 50% am y tro cyntaf erioed. Sir Gaerfyrddin welodd y cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru hefyd – sef 6.4%.