Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar ddyn ifanc yn Amlwch dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Cafodd y dyn 20 oed o Gaergybi, fan anafiadau yn dilyn yr ymosodiad ger croesfan rheilffordd Amlwch toc wedi 11yh nos Sadwrn, Awst 24. Cafodd y dyn ifanc ei orfodi i mewn i gar yn ystod yr ymosodiad.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gerallt Jones o Heddlu Caergybi: “Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd, yn enwedig unrhyw un a oedd yn dychwelyd o ŵyl Copperfest yn Amlwch a allai fod wedi gweld yr ymosodiad.”

Mae’r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111 a nodi cyfeirnod RC13140659.