Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi cydnabod pwysigrwydd y trydydd sector yn nyfodol yr iaith Gymraeg trwy lansio rhaglen waith bwrpasol i sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei blaenoriaethu o fewn y gweithle.

Bwriad y rhaglen waith yw sicrhau bod y Gymraeg yn ganolig ym mholisïau’r sector gwirfoddol yng Nghymru yn ogystal â hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg wrth wirfoddoli.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, “Mae sefydliadau’r trydydd sector wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn ein cymunedau ac yn darparu gwasanaethau rheng-flaen i bobl Cymru, ac yn gynyddol maent yn gweithredu ar ran sefydliadau’r sector cyhoeddus, yn arbennig felly yn y sector iechyd ac ym meysydd llywodraeth leol.”

Ychwanegodd Meri Huws ei bod yn hollbwysig bod gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg o fewn y trydydd sector. Meddai, “ Mae darparu gwasanaeth llawn a phriodol yn y Gymraeg  yn hollbwysig yn eu gweithredoedd, felly, ein nod ni, trwy gyhoeddi’r rhaglen waith hon yw gweithio gyda nhw i adeiladu ar gryfderau’r maes  ac adnabod bylchau sydd angen eu llenwi o ran darpariaeth Gymraeg.”

Mae oddeutu 33,000 o sefydliadau trydydd sector yng Nghymru gyda 978,000 o wirfoddolwyr a 51,000 o staff cyflogedig sy’n gweithio i elusennau, grwpiau cymunedol a chwmnïau cydweithredol.