Meri Huws - Comisiynydd y Gymraeg
Fe fydd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal ymchwiliad statudol i wasanaeth ffôn newydd sydd wedi cael ei sefydlu gan Gyngor Torfaen.

Mae’r gwasanaeth ar gael yn Saesneg ond does dim darpariaeth Gymraeg ar hyn o bryd – yn ôl gwefan y cyngor, fe fydd hwnnw’n dilyn.

Dyw’r Comisiynydd, Meri Huws, ddim wedi rhoi manylion am yr ymchwiliad heblaw i nodi ei fod yn ymwneud â’r gwasanaeth ffôn a hynny yng nghyd-destun Cynllun Iaith y cyngor.

Fe gafodd y gwasanaeth awtomatig ei lansio ddiwedd Mehefin eleni a’r bwriad yw ei fod yn ateb cwestiynau cyson am waith y cyngor.

Uniaith Saesneg yw’r neges ar rif ffôn arferol y cyngor hefyd a ddiwrnod y cyhoeddiad am yr ymchwiliad, doedd y derbynnydd ddim yn gallu ateb ymholiad Cymraeg chwaith.

Doedd gan y Cyngor ddim ymateb ar unwaith ond maen nhw wedi addo rhoi sylw maes o law.