Mae Marks and Spencer wedi dweud y byddan nhw’n rhoi arwyddion dwyieithog newydd yn eu siop yng Nghaerfyrddin – ac ymhob un o’u siopau trwy Gymru.
Mae’n dilyn protestio cyhoeddus yn erbyn arwyddion uniaith Saesneg yn y siop.
Mewn ymateb i alwad gan gynghorwyr sir Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith am arwyddion dwyieithog, fe gyfaddefodd y cwmni mai trwy gamgymeriad y cafodd yr arwyddion uniaith Saesneg eu codi.
Mae’r cwmni’n addo darparu arwyddion dwyieithog ymhob cangen trwy Gymru yn y dyfodol agos.
Tra’n croesawu’r addewid, dywed Plaid Cymru ei bod yn drueni bod y sefyllfa wedi codi o gwbl.