Y Gynhadledd Fawr yn Aberystwyth y mis diwethaf
Mewnfudo a chyflwr yr economi oedd rhai o brif bryderon y rhai a gymerodd ran yn nhrafodaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru ar ddyfodol yr iaith.

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi dadansoddiad cychwynnol o’r ymatebion yn  sgil y Gynhadledd Fawr fis yn ôl, pryd y cafodd pobl o bob rhan o Gymru gyfle i rannu eu syniadau.

Fe ddaeth 160 o bobl i’r Gynhadledd Fawr ar 4 Gorffennaf, gyda 816 yn ei dilyn ar-lein, ac fe ddaeth 880 o negeseuon i law ar y diwrnod.  Yn ogystal, fe fu pobl i 20 o grwpiau ffocws lleol a chafodd 2,393 o arolygon barn ar-lein eu cwblhau

Wrth grynhoi’r sylwadau, dywed y llywodraeth fod “pobl Cymru’n teimlo bod polisïau Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg yn dilyn y trywydd iawn ond bod angen gwneud mwy i sicrhau dyfodol yr iaith”.

Roedd y rhai a ymatebodd o’r farn hefyd fod angen hyrwyddo’r manteision sy’n deillio o’r iaith.

Wrth gyfeirio at y Gynhadledd Fawr yn ystod ei ymweliad â maes yr Eisteddfod yn Ninbych heddiw, meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones:

“Mae llawer i’w wneud eto, ond dw i wedi ymrwymo i weithio i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu.

“Dim ond y cam cyntaf yn y broses hon oedd y Gynhadledd Fawr. Byddwn ni nawr yn mynd ati i ystyried yn ofalus yr adborth a gafwyd er mwyn sicrhau bod sylwadau’r cyfranwyr yn ein helpu i lunio ein polisïau a’n gweledigaeth ar gyfer yr iaith yn y dyfodol.”