Llefydd Gwe ar Map y Maes

Llewelyn Hopwood o Gaerfyrddin sy’n blogio’n fyw o faes yr Eisteddfod yr wythnos hon.

Wele wi-fi

Er y glaw, mae’r maes eleni wedi rhoi argraff gyntaf gymharol ffafriol – wel, yr un argraff â bob blwyddyn â bod yn onest; heidiau o bobl digon cyfeillgar a’r geiriau “lle ’da chi’n aros” i’w clywed yn ddi-baid ar bob cwr o’r maes.

Ond â phob chwarae teg, mae’n ymddangos fel bod trefnwyr yr Eisteddfod wedi neud ymdrech i neud rhai newidiadau eleni, gyda’r un amlycaf i’w weld yn y modd y mae’r maes yn edrych yn fwy user friendly nag arfer. Mae’n llawer haws y tro hyn, diolch i’r baneri newydd, i ddarganfod lle mae’r peiriannau arian, mannau gwybodaeth a’r peth pwysicaf i rhywun fel fi – yr ardaloedd wi-fi. Rhywbeth newydd i faes yr Eisteddfod sydd o fudd mawr i ni sydd yn euog o ddiweddaru ein facebook a twitter bob  pum munud.


Pabell yn barod

Dechre arni

Llewelyn Hopwood o Gaerfyrddin ydw i, a’r wythnos yma byddaf i’n ysgrifennu blog dyddiol ar wefan golwg 360. Bydd y blog yn edrych ar y Brifwyl o bersbectif person ifanc gan edrych ar yr hyn sydd gan yr Eisteddfod i gynnig i ni eleni, ac unrhyw beth o ddiddordeb.

Bydda i’n ceisio mynd i ambell ddigwyddiad ar y maes i wrando ar drafodaethau a darlithoedd, ond gan fy mod yn gwersylla ym Maes B, efallai bydd dal y digwyddiadau cyntaf yn  bore yn her diddorol.
Fodd bynnag, byddaf yn bendant yn adolygu gigs ym Maes B a’r rhai bydd yn cael eu cynnal gan Gymdeithas yr Iaith yn nhref Dinbych ei hun.

Mae’r babell wedi cael test run gartref a does dim tyllau ynddo hyd yn hyn, felly dwi’n edrych ymlaen i ddarganfod pethau sydd o ddiddordeb ac o ddefnydd i bobl i fanc ar y maes wythnos yma.