Rhun ap Iorwerth - yr Aelod Cynulliad newydd
Noswaith dda. Gareth Pennant sy ’ma, gohebydd Cynulliad cylchgrawn Golwg. Mi fydda i’n dod a’r newyddion diweddaraf i chi o’r cyfrif, yma o Ganolfan Hamdden Plas Arthur yn Llangefni drwy gydol y nos.

02.00am A dyna ni. Gobeithio’ch bod wedi mwynhau darllen y blog. Dw i am y cae sgwar.

01.25am Canran Plaid Cymru ym Môn yn uwch nag unrhyw blaid arall ar yr ynys ers yr Ail Ryfel Byd. Efallai?

01.20am Rhun ap Iorwerth: “Mae Ynys Môn wedi siarad yn glir iawn, iawn heno”.

01.15am Y canlyniadau swyddogol:
Plaid Cymru – 12,601
Llafur – 3,425
UKIP – 3,099
Torïaid – 1,842
Dem Rhydd – 309
Llaf Sos – 348

01.00am Y canlyniad yn cael ei gyhoeddi mewn ychydig funudau.

12.49 Nifer yn meddwl mai hwn fydd y mwyafrif mwya’ i unrhyw ymgeisydd San Steffan/Cynulliad yn Ynys Môn.

12.25pm Canran ucha’ o bleidlieswyr – Penmynydd 52.86%

Isaf – Caergybi (Maeshyfryd) 23.79%

12.15pm Newydd siarad gyda Neil Fairlamb, y Ceidwadwr. Mae o’n “siomedig iawn, iawn”. Chwerthin wrth son am ei gyfnod yn dysgu Nigel Farage yn yr ysgol.

11.33pm Canran y pleidleiswyr – 42.45%

11.29pm Nathan Gill, ymgeisydd UKIP: “Cafodd ymweliad Nigel Farage effaith fawr ar ein hymgyrch”.

11.24pm Aelod arall o Blaid Cymru wedi’i syfrdanu nad oedd y Blaid Lafur wedi rhoi mwy i mewn i’r ymgyrch.

11.21pm Un arall sy’n gwenu fel giât ydi un o aelodau Plaid Cymru. “Hapus iawn, iawn,” meddai.

11.20pm Mae toriad yn y cyfri am bum munud.

11.19pm Canran y pleidleiswyr yn isel iawn, yn ôl nifer o bobol ar y llawr.

11.14 UKIP wedi gwneud yn dda iawn yn Llangefni, yn ôl y sôn.

11.11pm Yr Aelod Seneddol Albert Owen: “Roedd pethau’n mynd yn ein herbyn ni o’r cychwyn.”

11.10pm Edrych yn debyg ei bod hi’n hynod o agos rhwng Llafur/UKIP am yr ail safle. Un ffynhonnell o UKIP yn credu y gall Caergybi benderfynu hynny.

11.09pm Ymgeisydd UKIP, Nathan Gill, yn gwenu fel giât.

11.05pm  Aelod Seneddol Ynys Môn, Albert Owen, yn credu bod Plaid Cymru wedi ennill y sedd i bob pwrpas.

10.36pm Reit, dw i’n mynd lawr grisiau lle maen nhw’n cyfri.

10.35pm Ieuan Wyn Jones, cyn Aelod Cynulliad yr etholaeth, yn dweud wrtha i fod ei blaid wedi cael ymgyrch dda iawn.

10.26pm Nifer y pleidleiswyr drwy’r post yn uwch na’r disgwyl, yn ôl y ffynhonnell.

10.19pm Canran y pleidleiswyr yn is na’r disgwyl. O bosib llai ’na 40%, yn ôl un ffynhonnell.

10.10pm Mae chwech ymgeisydd:

Ceidwadwyr Cymreig – Neil Fairlamb
Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig – Steve Churchman
Llafur Cymru – Tal Michael
Plaid Cymru – Rhun ap Iorwerth
Plaid Lafur Sosialaidd – Kathrine Jones
Ukip – Nathan Gill

10.06pm  Ffynhonnell o’r cyngor yn disgwyl y canlyniad o gwmpas 1.30am.

10.00pm Mae’r gorsafoedd pleidleisio wedi cau.

9.59pm Mae Richard Parry Jones, y swyddog canlyniadau, yn anenerch yn y ganolfan hamdden.

9.58pm Noswaith dda. Gareth Pennant sy ‘ma, gohebydd Cynulliad cylchgrawn Golwg. Mi fydda i’n dod a’r newyddion diweddaraf i chi o’r cyfrif, yma o Ganolfan Hamdden Plas Arthur yn Llangefni drwy gydol y nos.