Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws wedi dweud ei bod hi wedi cael “cyfarfod cyfeillgar a buddiol” gyda Chymdeithas yr Iaith ynghylch y drefn gwyno.

Mynegodd y Gymdeithas bryderon am y system bresennol o gyflwyno cwynion iddi.

Ymhlith y cwynion roedd y dull o gysylltu â hi, sut mae derbyn tystiolaeth, a hwyluso’r broses i’r achwynydd.

Mewn datganiad heddiw, dywedodd swyddfa Meri Huws y byddai’n “cwrdd gyda swyddogion y Gymdeithas eto yn hwyrach yn y flwyddyn”.

Cyn y cyfarfod, anfonodd Cymdeithas yr Iaith lythyr ati yn nodi achosion penodol.

Tynnodd y Gymdeithas sylw at achos Gwion Schiavone, oedd wedi honni nad oedd wedi cael yr hawl i gyfathrebu ag aelod o staff y cwmni yswiriant Admiral yn Gymraeg dros y ffôn.

Yn yr ail achos, mynegon nhw bryder am fod Cyngor Torfaen wedi methu â dilyn eu cynllun iaith ei hun.

Yn drydydd, fe wnaethon dynnu sylw at y ffaith fod cwtogi wedi bod yn nifer y grwpiau chwarae Cymraeg yn Sir Y Fflint.

Yn y llythyr, dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod yr achosion “yn codi cwestiynau mawr am drefn cwynion y Comisiynydd” ac am ei rôl “fel eiriolwr i siaradwyr Cymraeg”.