Mae dileu addysg Gymraeg ail iaith yn hanfodol i sicrhau bod plant yn cael mynediad teg i’r Gymraeg, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Cyflwynon nhw’r argymhelliad mewn papur polisi fel rhan o adolygiad Llywodraeth Cymru, yn dilyn canlyniadau siomedig y Cyfrifiad.

Yn y papur, mae’r Gymdeithas wedi galw am gyfres o gamau i weddnewid y drefn addysg ail iaith mewn ysgolion.

Maen nhw’n dweud y dylai traean o gwricwlwm ysgolion ail iaith gael ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Hefyd, maen nhw’n galw am newid yn y ffordd y mae athrawon yn cael eu hyfforddi er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu defnyddio’r Gymraeg yn y dosbarth.

Yn ôl y Gymdeithas, “methiant addysgol yw amddifadu unrhyw un o’r sgil hanfodol o fedru cyfathrebu a thrafod ei waith yn y Gymraeg”, ac maen nhw’n awyddus i “sicrhau bod pawb yn ennill y sgil o rugled yn y Gymraeg”.

Ychwanegodd y Gymdeithas: “Dylid datgan yn syth fod bwriad i derfynu “Cymraeg ail iaith” a sicrhau’n hytrach fod symud yn syth tuag at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn cyfran o’i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal ag astudio’r Gymraeg fel pwnc, fel bod ganddo’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg”.

‘Rhan o etifeddiaeth pawb’

Dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas, Robin Farrar: “Rydym yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru – mae’n rhan o etifeddiaeth pawb o bob cefndir.

“Mae’n annheg mai dim ond lleiafrif o bobol ifanc sy’n cael y cyfle i addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, a hynny trwy hap a damwain daearyddol a dewis eu rhieni.

Ychwanegodd fod y term “ail iaith” yn “anaddas erbyn hyn”.

Fe fydd rhai o’r polisïau newydd i’w gweld yn nogfen Cynhadledd Fawr Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth ar Orffennaf 4, fel rhan o ‘Faniffesto Byw’ y Gymdeithas.