Mae rhybudd y gallai nifer o siopau elusen gau os yw Llywodraeth Cymru yn penderfynu mabwysiadu trethi busnes newydd.
Mae’r Gymdeithas Manwerthu Elusennol wedi rhybuddio y gallai argymhellion adroddiad arwain at fwy o siopau gwag ar y stryd fawr ac maen nhw wedi galw cynhadledd frys i drafod yr adroddiad maen nhw’n dweud sy’n cynnig “treth newydd ar elusennau yng Nghymru”.
Roedd y Gymdeithas Manwerthu Elusennol yn ymateb i adroddiad ar ostyngiad trethi ar gyfer elusennau, mentrau cymdeithasol ac undebau credyd a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill.
Mae’r adroddiad, a gadeiriwyd gan yr Athro Brian Morganfwy o siopp o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, ac sy’n sail i ymgynghoriad ar y mater, yn argymell newid y gostyngiad o 80% yn nhrethi busnes elusennau i 50%.
Mae’r adroddiad hefyd yn cwestiynu a ddylai siopau elusen dderbyn unrhyw ostyngiad treth o gwbl ac y dylai toriadau yn y gostyngiad ddechrau mor fuan â’r flwyddyn nesaf.
Mae hefyd yn cynnig cyfyngu ar faint o siopau elusen all fod mewn un ardal.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddiwedd y mis.
Siopau gwag
Mae’r gymdeithas wedi estyn gwahoddiad i Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i fynychu’r gynhadledd.
Mae’r adroddiad yn dweud bod siopau elusen yn cael dylanwad negatif ar fusnesau eraill ond mae’r Gymdeithas Manwerthu Elusennol yn dweud nad oes tystiolaeth annibynnol i gefnogi hyn.
Meddai Warren Alexander, prif weithredwr y Gymdeithas Manwerthu Elusennol:
“Os caiff ei fabwysiadu bydd yr argymhellion hyn yn gyfystyr â threth newydd ar elusennau gan Lywodraeth Cymru. Mae siopau elusen yn codi arian hanfodol ar gyfer gwasanaethau, gan helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau ailgylchu, cefnogi’r stryd fawr leol ac yn darparu swyddi a chyfleoedd i bobl wirfoddoli yng Nghymru.
“Maent yn derbyn cyfradd fusnes cymhorthdal treth cymharol fach i wneud hyn: amcangyfrif o £ 3.4 miliwn o’i gymharu â £75 miliwn ar gyfer busnesau bach.
“Rydym methu a deall pam mae siopau elusen yn cael eu targedu yn y modd yma ac rydyn ni’n ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a fydd hi’n mynychu cyfarfod brys gyda’n haelodau.”
‘Effaith andwyol’
Mae Eluned Parrott AC o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i beidio derbyn yr argymhellion.
“Os bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn derbyn argymhellion Adolygiad Morgan yr wyf yn bryderus iawn y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar siopau elusen y stryd fawr yn gyffredinol.
“Amcangyfrifir y bydd 130 o swyddi cyflogedig a 1,800 o swyddi gwirfoddol yn mynd os bydd yr argymhellion hyn yn cael eu derbyn.
“Rwy’n annog Llywodraeth Lafur Cymru i beidio â bwrw ymlaen â’r argymhellion. Nid siopau elusen yw’r rheswm dros ddirywiad ein strydoedd mawr.”
‘Cosbi siopau elusen’
Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru hefyd wedi annog y Llywodraeth i beidio â chosbi siopau elusen yn enwedig gyda chyfradd siopau gwag Cymru yn 17.9% – yr uchaf yn y DU.
Dywedodd Nick Ramsay AC, llefarydd busnes y Ceidwadwyr yng Nghymru: “”Mae’n warthus bod Llafur yn ystyried cosbi siopau elusen sy’n codi arian at achosion da, gan gynnwys hosbisau a gofal lliniarol.
“Mae gan Gymru eisoes y gyfradd uchaf o siopau gwag ar y stryd fawr yn y DU ond pe bai gweinidogion Llafur yn bwrw ymlaen â chynlluniau i brisio siopau elusen allan o’r stryd fawr, bydd cyfraddau siopau gwag hyd yn oed yn waeth.
“Yn lle eu cosbi, dylai Gweinidogion Llafur geisio gwneud y stryd fawr yn le mwy deniadol i wneud busnes trwy ei gwneud hi’n haws i barcio, glanhau strydoedd, cefnogi busnesau bach a mynd i’r afael â’r siopau gwag,” meddai.
Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.