Stadiwm y Mileniwm - cartref y bencampwriaeth saith-bob-ochr yn 2018?
Mae Cymru yn mynd i daflu’i het i’r cylch o ran cynnal cystadleuaeth y byd, saith-bob-ochr yn 2018.

Ar ôl ennill y gystadleuaeth yn Dubai yn 2009, Cymru yw Pencampwyr y Byd ar hyn o bryd, ac fe fyddan nhw’n amddiffyn y teitl yn Moscow yn ddiweddarach y mis hwn. 

Mae Undeb Rygbi Cymru am i gystadleuaeth 2018 gael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm, ac mewn un lleoliad arall, gyda Stadiwm Dinas Caerdydd yn bosibilrwydd. Mae’r Undeb yn gobeithio gwneud cynnig ffurfiol i gynnal y gystadleuaeth cyn diwedd y flwyddyn.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd, er mwyn ceisio cynnal y gystadleuaeth ym Mhrydain, am y tro cyntaf ers iddi gael ei chynnal gyntaf yn yr Alban yn 1993. 

Bydd cystadleuaeth 2018, fel cystadleuaeth eleni, yn cynnwys cystadleuaeth y dynion a’r merched.

‘‘Mae’r gystadleuaeth saith bob ochr yn tyfu ar draws y byd.  Bydd yn rhan o’r Gemau Olympaidd yn 2016 a 2020 ac efallai mai Tokyo fydd lleoliad y Gemau Olympaidd yn 2020,’’ meddai Roger Lewis, ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru sydd yn teithio gyda carfan rygbi Cymru yn Siapan ar hyn o bryd.

‘‘Yr ydym yn paratoi cynnig i geisio dod ar gystadleuaeth i Gymru yn 2018.  Mae’r bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi penderfynu newid amseriad y gystadleuaeth fel ei bod rhwng y Gemau Olympaidd yn 2016 a 2020. 

“Gobeithio y byddwn yn gwybod o fewn y chwe mis nesaf os y bydd ein cais yn llwyddiannus,’’ ychwanegodd Lewis.