Harbwr Porthmadog
Mae prisiau tai wedi codi mwy ym Mhorthmadog dros y 10 mlynedd ddiwethaf nag mewn unrhyw dref lan-môr arall yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl arolwg gan fanc yr Halifax, mae’r dref yng Ngwynedd wedi gweld cynnydd o 134% mewn prisiau tai o gymharu â 2003.

Bellach, mae tai yn y dref yn costio £162,638 ar gyfartaledd.

Mae’r cynnydd hwn mewn prisiau tai’n brawf pellach o effaith mewnfudo ar y dref sydd wedi ei lleoli ym mhrif ardal graidd y Gymraeg yn y gogledd-orllewin.

Porthmadog a welodd un o’r gostyngiadau mwyaf yn y gogledd o safbwynt niferoedd a chanran y siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011.

Cwympodd y ganran sy’n siarad Cymraeg yn y dref o 75% yn 2001 i 69.8% yn 2011, a bu dros 200 o leihad yn y niferoedd hefyd.

Bellach mae 27% o drigolion y dref wedi cael eu geni yn Lloegr, o gymharu â 68% yng Nghymru.

Ymddeol

Mae lle i gredu mai pobl yn dod yno i ymddeol yw un o’r prif ffactorau yn y newid, gyda’r gyfran dros 65 sy’n siarad Cymraeg wedi gostwng o 66.2% yn 2001 i 56.6% yn 2011.

“Mae trefi glan-môr yn lleoedd hynod boblogaidd i fyw ynddynt,” meddai Martin Ellis, economegydd tai Halifax. “Maen nhw’n cynnig ffordd unigryw o fyw gydag ansawdd bywyd uchel ac amgylchedd iach, ac o ganlyniad mae byw ger yr arfordir yn costio.”

Porthmadog yw’r unig dref yng Nghymru ymhlith y 10 uchaf o safbwynt cynnydd prisiau tai yn arolwg Halifax, gyda’r mwyafrif o’r lleill yng ngogledd Lloegr. Ar y llaw arall ar arfordir de Lloegr y mae’r tai drutaf o ddigon o hyd.

Tref lan-môr ddrutaf Cymru yw’r Mwmbwls ger Abertawe lle mae prisiau’n £266,891 ar gyfartaledd.