Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews wedi datgan ei fwriad i gyflwyno dirwy i rieni os nad yw eu plant yn mynd i’r ysgol yn rheolaidd.
Fe fydd y ddirwy yn cael ei chyflwyno o Fedi 1 eleni.
Daw’r cyhoeddiad diweddaraf yn dilyn cyfnod o bwyso a mesur canlyniadau ymgynghoriad a ddaeth i ben ddiwedd Chwefror.
Dywedodd Leighton Andrews fod yr ymgynghoriad yn dangos bod y rhan fwyaf o’r bobol a gafodd eu holi am eu barn yn cytuno gyda’i fwriad i gyflwyno’r ddirwy.
Mae lefelau triwantiaeth yng Nghymru wedi codi 1.3% ers 2005/06, pan oedd y ffigwr ar ei isaf.
Mae presenoldeb mewn ysgolion cynradd yng Nghymru bellach wedi cyrraedd 93.8%.
Cafwyd y cynnydd blynyddol mwyaf o ran presenoldeb ers pum mlynedd y llynedd, sef 0.5%, ac mae lefelau presenoldeb pob awdurdod addysg yng Nghymru wedi cynyddu yn y cyfnod hwnnw.
Cod ymddygiad lleol
Yn dilyn yr ymgynghoriad, daeth galw am god ymddygiad cenedlaethol neu fodel ymddygiad wedi’i llunio gan Lywodraeth Cymru.
O fis Medi ymlaen, felly, fe fydd gan brifathrawon yr hawl i gyflwyno’r ddirwy.
Mewn datganiad, dywedodd Leighton Andrews: “Diben cod ymddygiad lleol, pe bai awdurdod lleol yn penderfynu ei gyflwyno o fewn yr ardal, yw caniatáu i awdurdodau lleol ac ysgolion i ystyried amgylchiadau lleol ac unigol.
“Fe fydd canllaw Llywodraeth Cymru am y system ddirwy sefydlog, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn i’r rheoliadau ddod i rym, yn darparu arweiniad manwl ar fformat, cynnwys, y cyfnod ymgynghori a chyflwyno’r cod ymddygiad lleol.
“Bydd y canllaw yn cynnwys enghraifft o god ymddygiad y bwriedir iddo roi templed i awdurdodau lleol y gallant ei ddefnyddio ar gyfer eu cod ymddygiad eu hunain.”
Ychwanegodd y gallai ysgolion benderfynu rhoi’r grym i ddirwyo yn nwylo’r awdurdod lleol, yn hytrach na gofyn i’r pennaeth ei chyflwyno.
“Mae crynodeb o’r ddogfen ymatebion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ac rwy wedi gorchymyn fy swyddogion i baratoi rheoliadau i gyflwyno dirwyon sefydlog ar gyfer y sawl nad ydyn nhw’n mynychu’r ysgol yn rheolaidd o 1 Medi 2013.”
Ymateb NUT
Mae undeb athrawon wedi mynegi siom bod Llywodraeth Cymru wedi dewis cyflwyno dirwyon am driwantiaeth cyson.
Dywedodd NUT Cymru eu bod nhw’n ofni y bydd y polisi yn tanseilio rhywfaint o’r gwaith da sy’n cael ei wneud eisoes, gan ysgolion ac awdurdodau lleol, i daclo’r broblem.
Dywedodd Swyddog Polisi NUT Cymru, Owen Hathway: “Rydym yn gwybod bod triwantiaeth cyson yn broblem i ysgolion.
“Fodd bynnag, mae hwn yn fater lle mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos y lefelau uchaf erioed o bresenoldeb yn y sector cynradd a gwelliannau sylweddol mewn presenoldeb mewn ysgolion uwchradd.
“Er na ddylai unrhyw un laesu dwylo, mae’r Undeb yn pryderu y gallai cyflwyno dirwyon triwantiaeth gael effaith wrthgynhyrchiol a thanseilio’r gwaith da sy’n cael ei wneud.”
Ymateb Ceidwadwyr
Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr yng Nghymru, Angela Burns AC bod y gosb yn cael ei chyflwyno “ar draul cefnogaeth a chyswllt.”
“Mae perygl gwirioneddol y bydd y dirwyon yn taro’r rhai sydd fwyaf bregus ac yn anwybyddu’r rhesymau go iawn y tu ôl i driwantiaeth.
“Gall presenoldeb isel yn yr ysgol gael effaith niweidiol iawn ar blentyn a dylai Gweinidogion Llafur weithio’n galed i fynd i’r afael â’r broblem yn ei gwraidd.”
Cam yn ôl, medd Plaid
Mae llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas wedi cefnogi polisïau i gefnogi disgyblion a theuluoedd i fynd i’r afael ag absenoldebau o ysgolion, yn hytrach na chyflwyno cosbau megis hysbysiadau cosb benodedig.
Dywedodd: “Cam yn ôl yw cyflwyno hysbysiadau cosb benodol. Nid ydynt wedi gweithio pan gyflwynwyd hwy yn Lloegr. Mae angen i’r Gweinidog Addysg ddweud lle’r aiff unrhyw arian a godir.
“Buasai llywodraeth Plaid Cymru yn defnyddio dulliau megis swyddogion cyswllt rhwng y cartref a’r ysgol i fynd i’r afael ag absenoldeb, fel bod polisïau yn cefnogi disgyblion a’u teuluoedd, yn hytrach na’u cosbi trwy eu dirwyo. Mae cydberthynas rhwng ardaloedd o amddifadedd uchel a lefelau uchel o absenoldeb.”