Wnaeth y gantores o Sgiwen, Bonnie Tyler, ddim llwyddo i ddod i’r brig yng nghystadleuaeth yr Eurovision ym Malmo neithiwr.

Fe lwyddodd, serch hynny, i ddenu mwy o farciau nag Engelbert Humperdinck y llynedd. Mi wnaeth hi ennill 23 o bwyntiau ar gyfer ei chân Believe in Me gan orffen y noson yn y 19eg safle.

Denmarc wnaeth ennill y gystadleuaeth gyda Emmelie de Forest yn swyno gwylwyr ar draws Ewrop gyda’i chân Only Teardrops. Azerbaijan ddaeth yn ail.

Dywedodd Bonnie ei fod wedi bod “yn noson i’w chofio.”

Roedd wedi mwynhau’r profiad o fod yn rhan o Eurovision, meddai. “Fe wnes y gorau y gallwn i gyda chân wych.”

Ryan Dolan o Iwerddon ddaeth yn olaf eleni gyda phum pwynt yn unig.