April Jones
Mae’r amddiffyniad yn yr achos yn erbyn Mark Bridger, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio April Jones, wedi cwestiynu cywirdeb y profion wnaeth ddarganfod ei gwaed yn ei gartref.
Mae Bridger, 47, o Geinws ym Machynlleth yn gwadu cipio a llofruddio April Jones ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gael gwared a’i chorff.
Fe ddiflannodd y ferch 5 oed wrth chwarae ger ei chartref ym Machynlleth ar 1 Hydref y llynedd.
Ddoe bu’r gwyddonydd fforensig fu’n cynnal profion ar yr olion gwaed a ddarganfuwyd yng nghartref Bridger, yn rhoi tystiolaeth.
Dywedodd Emma Howes bod y gwaed a ddarganfuwyd ar y carped yn ystafell fyw Bridger yn cyfateb i DNA April a bod olion o’i gwaed wedi’u darganfod mewn sawl lleoliad.
Cwestiynu cemegyn
Heddiw, bu Patricia Foley, sydd a 26 mlynedd o brofiad yn y maes fforensig, yn rhoi tystiolaeth.
Roedd Damien Kelly QC ar ran yr amddiffyniad, wedi gofyn iddi am ddilysrwydd y cemegyn Blue Star a gafodd ei ddefnyddio i ddarganfod olion gwaed April Jones yng nghartref Mark Bridger. Dywedodd Patricia Foley ei bod hi’n “fodlon” bod yr hyn ddaethpwyd o hyd iddo’n “gwbl gyson â gwaed”.
Dywedodd Patricia Foley bod y cemegyn yn cael ei ddefnyddio’n aml mewn achosion lle mae’r gwaed wedi cael ei olchi i ffwrdd.
Ychwanegodd ei bod wedi defnyddio Blue Star yn yr ystafell fyw, y cyntedd a’r ystafell ymolchi – sef y lleoliadau lle cafwyd hyd i waed April. Pan gafodd y cemegyn ei roi yn y sinc, meddai, roedd ’na ymateb “dramatig yn syth.”
‘Dim tystiolaeth o ddamwain’
Mae’r gwyddonydd fforensig Roderick Stewart hefyd wedi bod yn rhoi tystiolaeth am y profion a gynhaliwyd ar gar Land Rover Mark Bridger. Dywedodd nad oedd unrhyw dystiolaeth bod y car wedi taro yn erbyn person neu feic.
Mae Bridger yn honni iddo daro April drwy ddamwain gyda’i gar Land Rover a’i rhoi yn ei gar i geisio ei hadfywio. Ond mae’n dweud nad yw’n cofio beth wnaeth gyda’i chorff ar ôl hynny.
Mae’r achos wedi ei ohirio tan 10yb fory.