David Jones
Bydd yn rhaid i Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, David Jones ad-dalu £81,446 o elw mae e wedi’i wneud o’i gartref yn Llundain sy’n cael ei ariannu gan drethdalwyr.

Cyhoeddodd yr Awdurdod Annibynnol Safonau Seneddol (Ipsa) eu bod nhw wedi gofyn i 70 o Aelodau Seneddol ad-dalu gwerth £500,000 o elw o’r fath gartrefi.

Bu’n anghyfreithlon ers 2010 i ASau ddefnyddio treuliau o Dŷ’r Cyffredin i dalu llog ar forgeisi.

Ond roedd gan Aelodau Seneddol gafodd eu hethol cyn 2010 yr hawl i hawlio’r arian hyd at fis Awst y llynedd, ar yr amod eu bod nhw’n ad-dalu unrhyw elw cyfalafol.

Dim ond un allan o’r 70 sydd heb gytuno i ad-dalu’r arian.

Fe fydd rhaid i Aelod Seneddol Ceidwadol Peterborough, Stewart Jackson ad-dalu £54,000 am gartref o fewn ei etholaeth.

Dywed Ipsa eu bod nhw’n fodlon ystyried ymestyn y cyfnod ad-dalu i 2015 os yw’n debygol o achosi caledi.

Ond mae nifer o Aelodau Seneddol yn barod i ddwyn achos cyfreithiol ar y sail bod yr awdurdod wedi gweithredu y tu hwnt i’w hawliau.