Justin Edinburgh, rheolwr Casnewydd yn dathlu
Bydd y dathlu yn parhau yng Nghasnewydd heddiw ar ôl i dîm pêl-droed y ddinas ennill dyrchafiad yn ôl i adran 2 o’r Cyngrhair Pêl-droed ar ôl curo Wrecsam o 2 gôl i ddim yn Wembley brynhawn ddoe.

Fe sgoriodd Casnewydd ddwy-waith o fewn munudau i ddiwedd y gêm.

Mae yna chwarter canrif wedi mynd heibio ers i’r clwb chwarae ddiwethaf yn y Gyngrhair.

Dywedodd yr aelod seneddol lleol Paul Flynn bod ddoe wedi bod yn ddiwrnod arbennig i ddinas Casnewydd ac i’r clwb “ar ôl chwarter canrif o ddistryw, alltudiaeth, aberth a datblygiad dewr.”

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones ymhlith y rhai sydd wedi llongyfarch Casnewydd tra’n cydymdeimlo efo Wrecsam. Gan gyfeirio at lwyddianau diweddar Wrecsam, Caerdydd, Abertawe a Gareth Bale dywedodd nad oes dwywaith bod hon “wedi bod yn flwyddyn wych i bêl-droed yng Nghymru. ”

Collodd tîm Casnewydd ei le yn y Gyngrhair yn 1988 ac fe aeth i’r wal yn fuan wedyn ar ôl iddo fynd i draferthion ariannol.

Cafodd ei ail- ffurfio i chwarae mewn adran oedd bedwar lle o dan y Cyngrhair Pêl-droed a’u gorfodi i chwarae yn Sir Gaerloyw. Bellach mae nhw yn chwarae ar gae Rodney Parade ynghanol Casnewydd.

Mae Prif Weithredwr Cyngor Casnewydd wedi dweud y bydd dychwelyd i’r Gynrhair yn golygu llawer i gyllideb y clwb a’r ddinas. Cyn i’r gêm hyd yn oed ddecrhau galwodd Dave Boddy hi yn “y gêm miliwn o bunnau” a’r “wobr fwyaf ym mhêl-droed ag eithrio’r bencampwriaeth”.

Wrecsam

Fe ddychwelodd tua 10,000 o gefnogwyr Wrecsam adref o Wembley yn naturiol siomedig ond ’does ond chwech wythnos ers i Wrecsam ddathlu ar ôl ennill Tlws yr FA trwy guro Grimsby Town ar giciau côsb yn y stadiwm.

Yn union wedi’r gêm orffen fe wnaeth Andy Morrell, rheolwr Wrecsam drydar ei fod yn tu hwnt o falch o’r chwaraewyr er gwaetha’r ffaith bod colli yn brifo. “Roeddyn ni’n ffantastig heddiw,” meddai.

Mae un o chwaraewyr y clwb, Adrian Cieslewicz hefyd wedi trydar am ei siomedigaeth. “Alla’i ddim credu beth sydd wedi digwydd. Diolch o galon i’r cefnogwyr i gyd – rydych chi wedi bod yn wych trwy’r tymor,” meddai.