Carl Sargeant
Mae Cynghorydd Llafur yn Sir Gaerfyrddin yn galw ar y Gweinidog Tai i ystyried cynllun i godi bron i 300 o dai ym Mhenybanc ger Rhydaman.

Yn ôl Calum Higgins, sy’n cynrychioli ward Tŷ-Croes ger Rhydaman, mae angen i’r Cynulliad “roi arweiniad” i gynghorwyr pan ddaw hi at y Gymraeg a chynllunio.

“Mae’n bwysig adeiladu tai mewn ffordd sy’n gynaladwy i’r Gymraeg ac i’r economi leol,” meddai.

“Mae cynghorwyr mewn cyfyng gyngor achos dy’n ni ddim eisiau gwrthod datblygiad dim ond i’r Gweinidog yn y Llywodraeth newid y penderfyniad.

“Yr hyn sy’n digwydd wedyn yw bod datblygiad yn cael ei ganiatáu mewn cyfres o ddarnau, fel ym Mhenybanc.”

TAN 20

Mae’r Gweinidog Tai Carl Sargeant ar hyn o bryd yn ystyried p’un ai i alw’r datblygiad dadleuol i mewn ai peidio.

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi galw am ddiweddaru’r polisi TAN 20, y polisi ar ystyried y Gymraeg wrth farnu ar geisiadau codi tai, ac wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o laesu dwylo ar y mater. Mae’r Cynghorydd Calum Higgins hefyd yn galw am TAN 20 newydd, ac am “ganllawiau cryfach i gynghorwyr.”

Gweithgor ar y Gymraeg

Mae Calum Higgins wedi ei benodi’n is-gadeirydd gweithgor sy’n trafod adfywio’r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn canlyniadau siomedig Cyfrifiad 2011. Y Cynghorydd Cefin Campbell, cyn-bennaeth Mentrau Iaith Myrddin, sydd wedi ei benodi’n gadeirydd.

Cyfarfu’r Gweithgor am y tro cyntaf yr wythnos ddiwethaf a dywedodd Calum Higgins fod “llawer o dir cyffredin” rhwng y pleidiau, a dyhead i “dynnu gwleidyddiaeth plaid mas ohono fe.”

“Mae pawb yn ymwybodol fod y sefyllfa’n ddifrifol,” meddai.

Mae’r gweithgor wedi cytuno i roi pwyslais ar addysg, cynllunio, gweinyddiaeth Gymraeg a’r iaith o fewn y gymuned, ac mae disgwyl iddyn nhw adrodd nôl am y tro cyntaf ymhen chwe mis.