Mae cannoedd o blant yn cael eu brechu rhag y frech goch, mewn sesiynau arbennig sy’n cael eu cynnal y penwythnos hwn.

Heddiw’n unig, mae dros 1,100 o frechiadau wedi eu rhoi mewn sesiynau brys mewn pedwar ysbyty yn ardal Abertawe.

Fe gafwyd Gareth Williams, 25 oed, yn farw yn ei fflat yn Abertawe fore Iau. Roedd yn diodde’ o’r frech goch. Mae ei gorff yn cael ei archwilio ar hyn o bryd, fel rhan o ymchwiliad i geisio canfod ai’r frech goch laddodd e, ynteu rhywbeth arall.

Mae miloedd o blant wedi derbyn y brechlyn MMR dros y tair wythnos ddiwetha’, yn wyneb y nifer cynyddol o achosion o’r frech goch yn yr ardal.

Fe gyrhaeddodd uchafbwynt o 808 ddydd Iau, wedi i 43 o achosion newydd o’r frech goch gael eu cofnodi o fewn deuddydd.

Mae cymaint â 2,000 o blant eraill wedi cael eu brechu mewn ysgolion yr wythnos hon, wrth i’r awdurdodau geisio targedu’r grwpiau mwya’ bregus.

Ond heddiw, fe lifodd cannoedd eto i bob ysbyty, i gael eu brechu yn ysbytai Singleton a Threforys yn Abertawe; Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, ac Ysbyty Castell Nedd-Port Talbot.