Mae naw o orsafoedd radio cymunedol ledled Cymru wedi derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Fe fydd y gorsafoedd yn rhannu £100,000 rhyngddyn nhw.

Mae Bro Radio, Calon FM, GTFM, Point FM a Tudno FM i gyd wedi derbyn £12,260, tra bod y grantiau eraill yn amrywio rhwng £9,298 a £10,072.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths fod y gorsafoedd yn “darparu gwasanaeth o bwys mawr i drigolion lleol”.

“Yn ogystal ag adlewyrchu’r materion sy’n cael effaith ar bobl a’u cymunedau, mae gorsafoedd radio lleol hefyd yn cyfrannu at wella bywydau eu gwrandawyr drwy amrywiol fentrau fel cynnal digwyddiadau lleol, mentrau hyfforddi, gweithio gyda ysgolion/prifysgolion a chodi arian i elusennau lleol.

“Dwi’n falch iawn o gyhoeddi’r grantiau hyn ac yn llongyfarch y gorsafoedd ar y swyddogaeth bwysig y maent yn ei chyflawni o fewn eu cymunedau.”

Wrth ymateb i’r newyddion eu bod nhw wedi derbyn £12,260, dywedodd Golygydd Calon FM yn Wrecsam, Amy Hughes: “Ry’n ni wedi cael arian nifer o flynyddoedd o’r bron felly mae’n wych.”

Darpariaeth Gymraeg

Ychwanegodd y bydd yr arian yn gymorth i ddatblygu ei swydd hithau a swydd y Swyddog Cyswllt Cymunedol.

“Ry’n ni’n derbyn 10,000 o ymwelwyr i’r wefan bob mis ond mae’n anodd mesur sawl gwrandawr sydd gyda ni, ond ry’n tybio bod gyda ni’r un nifer, felly.

Derbyniodd yr orsaf ei hail drwydded fis Awst diwethaf, ar ôl cael ei sefydlu yn 2008.

“Dim ond pum orsaf arall oedd yn cystadlu am yr arian pan ddechreuon ni, ac mae’r grant yn wych i gwmnïau newydd.

Mae’n un o nifer o’r gorsafoedd sy’n cynnig rhaglenni dwyieithog, ac mae’r ddarpariaeth yn parhau i ddatblygu.

“Rydyn ni’n chwarae cerddoriaeth Gymraeg trwy ein holl raglenni ond bu’n anodd yn ddiweddar oherwydd ffrae PRS,” meddai.

“Yn y cyfamser, ry’n ni wedi bod yn annog dysgwyr i wrando trwy gynnig gwybodaeth ar ein gwefan, ac ry’n ni wedi bod yn cynnal cwrs Cyflwyniad i Radio yn ddwyieithog ac yn uniaith Gymraeg hefyd trwy gymorth Saith Seren.”