Mae milwyr o gatrawd Gymreig a ddioddefodd colledion mawr yn rhyfel y Falklands yn mynd i chwarae rôl bwysig yn angladd Margaret Thatcher

Bydd aelodau o’r Gwarchodlu Cymreig ymhlith y 700 o filwyr a fydd yn bresennol ddydd Mercher nesaf yn Llundain, yn cludo’r arch, yn creu llinyn o filwyr ar hyd taith yr orymdaith, ac yn ffurfio gosgordd y tu allan i Gadeirlan Sant Paul.

Bu farw 48 aelod o’r Gwarchodlu Cymreig yn ystod rhyfel y Falklands yn 1982 yn dilyn ymosodiad gan awyrennau’r Ariannin ar long y Sir Galahad.

Roedd gan Margaret Thatcher gyswllt agos â’r lluoedd arfog ac mae nifer o gyn-filwyr wedi bod yn rhoi teyrnged iddi’r wythnos yma.

Syr Mark Thatcher – ‘Anrhydedd mawr’

Yn ystod yr orymdaith angladdol fe fydd aelodau’r Honourable Artillery Company yn tanio gynau i’r awyr o Dŵr Llundain.

Fe fydd tri band milwrol yn chwarae, â’u drymiau wedi eu gorchuddio’n ddu fel arwydd o barch.

Dywedodd Syr Mark Thatcher heddiw y byddai ei fam wedi teimlo “anrhydedd mawr” bod y frenhines yn dod i’w hangladd wythnos nesaf.

Roedd ei fam wedi cael “bywyd hir a llawn” meddai, ond roedd ei marwolaeth “heb os, yn drist iawn.”

Ychwanegodd bod yr holl negeseuon o gydymdeimlad wedi yn gymorth mawr yn ystod y dyddiau diwethaf.

Mae Downing Street wedi amddiffyn y penderfyniad i alw Aelodau Seneddol yn ôl o’u gwyliau Pasg er mwyn talu teyrngedau i’r Farwnes Thatcher heddiw.