Mae cynghorwyr Sir Ddinbych wedi cefnogi’r galw am garchar newydd yng ngogledd Cymru.

Bu Bwrdd Arweinyddiaeth Ranbarthol Gogledd Cymru’n ymgyrchu am garchar i’r rhanbarth ers pum mlynedd.

Aelodau chwe chyngor y gogledd, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Heddlu’r Gogledd, Awdurdod Tân ac Achub y Gogledd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw aelodau’r Bwrdd Arweinyddiaeth, ac maen nhw wedi bod yn lobïo’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ers pum mlynedd.

Cafodd yr ymgyrch gefnogaeth y Cyngor Sir yn dilyn cyfarfod yn Rhuthun ddoe.

‘Angen carchar lle mae’r Ddeddf Iaith yn weithredol’

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans, mai darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yw un o’r prif resymau dros gymeradwyo’r galw.

“Mae’n newyddion ardderchog fod Gogledd Cymru ar y rhestr fer o ranbarthau i’w hystyried ar gyfer carchar newydd a rhoddodd cynghorwyr Sir Ddinbych eu cefnogaeth unfrydol i’r cais.

“Rydym wedi ein cyffroi gan y posibilrwydd y bydd carchar yn cael ei adeiladu yng Ngogledd Cymru.

“Byddai’n cynnwys buddsoddiad sylweddol yn economi’r rhanbarth a gallai greu cannoedd o swyddi newydd.

“Mae angen y buddsoddiad a’r swyddi arnom ond mae hefyd angen carchar arnom lle mae Deddf yr Iaith Gymraeg yn weithredol er mwyn i ddiwylliant Cymreig gael ei gydnabod yn y system garchardai.

“Credwn fod dadl gref dros gael carchar yng Ngogledd Cymru a bydd y Bwrdd Arweinyddiaeth Ranbarthol yn parhau i lobïo’r Llywodraeth. Mae’r rhain yn ddyddiau cynnar, ond byddwn yn parhau gyda’r deialog ac yn aros i’r llywodraeth benderfynu a fu ein rhanbarth yn llwyddiannus.”