Cyngor Sir Ddinbych
Cafodd protest ei chynnal y bore yma gan aelodau undeb Unsain yn erbyn cynlluniau Cyngor Sir Ddinbych i arbed arian a allai arwain at ddiswyddo staff os nad ydyn nhw’n derbyn telerau ac amodau gwaith newydd.

Ysgrifennodd Unsain at bob aelod o’r Cyngor Sir ddoe yn gofyn iddyn nhw beidio rhoi’r awdurdod i’r Prif Weithredwr fwrw ymlaen gyda’r cynlluniau.

Protestiodd tua 20 aelod o staff y tu allan i swyddfeydd y Cyngor Sir yn Rhuthun am 9 o’r gloch heddiw.

Yn dilyn trafodaeth heddiw, mae’r Cyngor wedi gohirio penderfyniad ar y mater am y tro.

‘Toriadau diangen’

Mewn datganiad, dywedodd Trefnydd Rhanbarthol Unsain, Geoff Edkins: “Mae’r toriadau hyn yn y telerau ac amodau yn ddiangen ac fe fyddan nhw’n cael cryn effaith ar staff.

“Mae ein haelodau’n grac am y cynigion annheg hyn.

“Rydyn ni’n gobeithio bod y Cynghorwyr yn cymryd sylw ac yn gwrando.

“Mae’r staff yn barod i rannu poen y toriadau lle bo angen, ond rhaid gwneud hynny mewn ffordd deg.

“Yn ystod yr ymgynghoriadau efo’r rheolwyr, mae’r undebau wedi canfod yr arbedion y mae’r Cyngor yn chwilio amdanyn nhw ond cafodd ein hargymhellion, ar y cyfan, eu gwrthod.”

Ychwanegodd fod Unsain yn bwriadu parhau â’r trafodaethau.