Newyn yw’r sgandal a’r her fwyaf sy’n wynebu unigolion a llywodraethau’r byd y Pasg hwn, yn ôl Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

“Tra bo ni’n dathlu atgyfodiad Iesu, Bara’r Bywyd, mae bron biliwn o bobl yn byw mewn newyn,” meddai Dr Fiona Gannon, Cadeirydd Cyngor yr Undeb.

“Eto, byddai digon o fwyd ar gyfer pawb petai pedwar anghyfiawnder mawr yn cael eu dileu.”

Dywedodd Dr Gannon fod eu hymgyrch “OS”, sy’n cael cefnogaeth gan dros 100 o sefydliadau, yn datgan y byddai bwyd i bawb:

  • Os gallwn atal cwmnïau mawr rhag osgoi talu trethi mewn gwledydd tlawd, gan alluogi miliynau o bobl i ryddhau eu hunain o newyn;
  • os gwnawn y buddsoddiadau cywir i atal pobl rhag marw o newyn, a helpu’r bobl dlotaf i fwydo eu hunain;
  • os gallwn rwystro ffermwyr tlawd rhag cael eu gorfodi oddi ar eu tiroedd a defnyddio cnydau i fwydo pobl, nid eu troi’n danwydd i geir;
  • os gorfodwn lywodraethau a chwmnïau mawr i fod yn onest ac yn agored am weithredoedd sy’n atal pobl rhag cael digon o fwyd.

“Pa ffordd well o ddathlu’r Pasg na thrwy addunedu o’r newydd i ymgyrchu dros y tlawd a’r newynog?” gofynnodd Dr Gannon.

“Wrth i ni fwynhau ein wyau Pasg, gadewch i ni gofio geiriau Iesu ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun,’ a gweithredu ar y gorchymyn mawr hwnnw.”