Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Chafodd dim cig ceffyl na chig moch ei ganfod mewn samplau o fwyd gymerwyd o ysgolion a chartrefi gofal yn y brifddinas.

Roedd Cyngor Caerdydd wedi cynnal profion ar dros 200 o samplau yn dilyn pryderon bod cig ceffyl mewn cynnyrch gafodd ei gyflewni iddyn nhw gan gwmni oedd wedi cael ei herio gan awdurdod lleol arall.

Roedd pob un o’r samplau yn negyddol.

Dywedodd y Cynghorydd Ashley Govier, sy’n aelod o gabinet y cyngor, eu bod am adolygu eu dull o reoli’r gadwyn fwyd.

Mae’r cyngor hefyd yn rhan o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas yr Awdurdodau Lleol Cymreig i ganfod sut i sicrhau “lefel addas o sicrwydd i’r cyhoedd” ynglyn â’r gadwyn fwyd.