Mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr wedi beirniadu Carwyn Jones yn dilyn ei gyhoeddiad y gallai’r penderfyniad i symud gwasnaeth gofal dwys o Ogledd Cymru i Loegr gael ei adolygu yn y dyfodol, a bod angen edrych ar fodelau eraill ar gyfer gofal babanod newydd-anedig yn y gogledd.

Fel rhan o gynlluniau ad-drefnu gwasanaethau iechyd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gallai gofal babanod newydd gael eu symud o ysbytai Glan Clwyd a Wrecsam Maelor i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri yn Lloegr.

Er bod Carwyn Jones wedi dweud yn ei ddatganiad ei bod yn “gwbl briodol” i’r bwrdd iechyd ddefnyddio Arrow Park “lle bo angen”, mae’r gwrthbleidiau’n dweud bod y cyhoeddiad heddiw yn brawf ei fod e’n sylweddoli mai symud y gwasanaethau i Loegr yw’r penderfyniad anghywir.

‘Diffyg arweiniad’

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn y Gogledd, Llŷr Huws Gruffydd: “Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gyfaddefiad gan y Prif Weinidog mai symud gwasanaethau newydd-anedig arbenigol allan o ogledd Cymru yw’r penderfyniad anghywir.

“Rydyn ni’n amlwg wedi ennill y ddadl hon ac mae’n drueni nad oedd Carwyn Jones wedi cyfaddef hynny fisoedd yn ôl.

“Pe bai e wedi gwneud hynny, gallai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod wedi datblygu cynigion i gadw’r gwasanaeth yng ngogledd Cymru o’r cychwyn, gan osgoi gwastraffu amser ac arian yn ofnadwy wrth orfod ystyried camau newydd nawr.

“Dyma brawf fod Llywodraeth Cymru wedi methu arwain y Gwasanaeth Iechyd a dyna pam ei fod mewn cymaint o lanast.

“Rwy’n gofidio’n fawr ei fod e’n ymddangos yn hapus i dderbyn bod y gwasanaeth yn cael ei golli’n fuan, wrth ddweud y bydd e’n ceisio’i ail-gyflwyno rywbryd amhenodol yn y dyfodol.

“Yn y cyfamser, bydd mamau a babanod yn agored i bob risg y mae’r Blaid, y BMA, RCN ac RCM wedi bod yn rhybuddio amdanyn nhw.

“Dydy’r Prif Weinidog ddim ychwaith yn ymddangos fel pe bai’n deall mai canlyniad allweddol i golli’r gwasanaeth lefel 3 fydd colli arbenigedd o fewn y gwasanaethau gofal dwys sy’n weddill ar gyfer babanod newydd-anedig yng ngogledd Cymru.

“Unwaith caiff y gwasanaeth gofal dwys ei golli, bydd hi’n llawer iawn anos ei ail-gyflwyno.”

‘Dim digon pell’

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar wedi dweud ei fod e’n croesawu’r cyhoeddiad gan Carwyn Jones, ond nad yw’n mynd yn ddigon pell.

“Mae’n siomedig bod y Prif Weinidog wedi methu gosod amserlen glir ar gyfer y broses o wneud penderfyniadau.

“Mae’r ansicrwydd parhaus am y dyfodol yn parhau’n achos pryder i staff sy’n gweithio’n galed ac i rieni.

“Rhaid i’r Prif Weinidog ymateb yn gyflym er mwyn cyhoeddi amserlen a rhoi sicrwydd na fydd unrhyw wasanaethau’n cael eu diddymu yn ystod y cyfnod adolygu.

“Rwy’n hyderus, os yw’r Prif Weinidog yn cadw at ei air ac yn gwrando ar glinigwyr, y bydd y gwasanaethau hyn yn ddiogel yng ngogledd Cymru ac y bydd y penderfyniad a allai fod yn beryglus, sef adleoli’r gwasanaethau o’r rhanbarth, yn cael ei ddileu.”