Neil McEvoy
Fe fydd cynnig yn cael ei gerbron cynghorwyr Caerdydd heddiw er mwyn condemnio’r “dreth ystafell wely.”
Yn ôl grŵp dau-aelod Plaid Cymru ar y Cyngor bydd y newid mewn budd-daliadau llety yn cymryd £3m oddi wrth y mwyaf anghenus yng Nghaerdydd.
Mae Llywodraeth Prydain eisiau arbed £500m ar wariant budd-daliadau trwy dalu llai i’r rheiny sydd â mwy o le yn eu cartrefi.
Dywedodd y Cynghorydd Neil McEvoy, sy’n gwneud y cynnig: “Un enghraifft o effaith y newidiadau yw ar ddyn o Gaerdydd sydd â chyflwr ar ei arennau.
“Mae’n gorfod cadw ei offer deialysis mewn ystafell wely arall a chaiff e ei gosbi dan y drefn newydd yma.
“Mae’n warthus. Bydd y dreth yma’n effeithio ar bedair mil o bobol yng Nghaerdydd.”
Mae’r cynnig yn gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig “gydnabod nad yw’r polisi tanfeddiannu’n ymarferol ac y bydd yn dod â chaledi i bobol sy’n byw mewn tlodi.”
Bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno i gynghorwyr Caerdydd brynhawn Iau.