Mae ffigurau sy’n dangos bod ambiwlansys wedi methu eu targed i ymateb i alwadau brys am y nawfed mis yn olynol yn “hynod siomedig” yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru.

Roedd ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos mai 60.8% o ambiwlansys oedd wedi ymateb i alwadau brys o fewn wyth munud. Y targed yw 65%.

Dywedodd Darren Millar AC: “Mae’r ffigurau yma yn hynod o siomedig ac yn dangos nad yw  ambiwlansys yn ymateb i alwadau brys mor gyflym ag y byddai cleifion yn ei ddisgwyl.

“Am naw mis yn olynol, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi methu’r targed o 65%, a hynny er gwaetha’r ffaith bod y targed yn is nag ardaloedd eraill yn y DU.”

Ychwanegodd bod y  gwasanaeth yn methu darparu’r gofal brys mae cleifion yn dibynnu arno er gwaetha ymdrechion parafeddygon a staff y gwasanaeth ambiwlans.

“Mae gan y Gweinidog Iechyd newydd her anodd o’i flaen i fynd i’r afael a gwasanaeth sy’n methu’n gyson,” meddai Darren Millar.

Mae’n rhoi’r bai ar doriadau Llywodraeth Lafur Cymru yng nghyllideb y GIG gan ddweud bod hynny’n rhoi pwysau cynyddol ar y gwasanaeth ambiwlans.