Fe gyhoeddwyd bore ma mai cwmni preifat o America fydd yn gyfrifol am gynnal y gwasanaeth chwilio ac achub yn y DU.
Cwmni Bristow Helicopters, sydd a’i bencadlys yn Tecsas, sydd wedi ennill y cytundeb gwerth £1.6 biliwn, fe gyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth heddiw.
Mae’r cwmni wedi cyhoeddi ei fwriad i symud y gwasanaeth o’r Fali ar Ynys Mon o 2015 i safle newydd yng Nghaernarfon. Fe fydd safle newydd hefyd yn agor yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg.
Yr Awyrlu a’r Llynges sydd wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth ers 70 mlynedd ond fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y llynedd eu bod am drosglwyddo’r gwasanaeth i gwmni preifat.
Mae’n debyg bod Bristow yn bwriadu cael gwared a hofrenyddion Sea King a defnyddio hofrenyddion Sikorsky S-92s ac AgustaWestland 189 yn eu lle, sydd yn fwy effeithlon, meddai’r cwmni.
O dan y cytundeb newydd fe fydd 22 o hofrenyddion yn gwasanaethu o 10 lleoliad yn y DU – a’r bwriad yw agor safle newydd ym maes awyr Dinas Dinlle yng Nghaernarfon, yn ogystal â Newquay yng Nghernyw, Humberside, a Stornoway a Sumburgh yn yr Alban.
Fe fydd safleoedd newydd hefyd yn cael eu hagor ym maes awyr Sain Tathan, Inverness a Manston.
‘Pryderon’
Ond mae Aelod Cynulliad Ynys Mon, Ieuan Wyn Jones wedi mynegi pryderon am y cynlluniau.
Dywedodd: “Mae’r gwasanaeth chwilio ac achub presennol sy’n cael ei weithredu gan y Llu Awyr Brenhinol yn y Fali wedi bod yn wasanaeth ardderchog ers 70 mlynedd. Mae wedi achub cannoedd o fywydau trwy achub pobl nid yn unig oddi ar fynyddoedd Cymru ond hefyd rhai sydd wedi dod i drafferthion o amgylch ein harfordir.
“Mae’r gwasanaeth hwn sydd wedi ei leoli yn RAF y Fali yn un sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr.
“Byddai ei werthu yn gam anhysbys gan na allwn fod yn sicr y byddai yn darparu gwasanaeth yr un mor dda a’r hyn sy’n cael ei ddarparu gan y RAF. Nid oes gan y llywodraeth record dda ar breifateiddio gwasanaethau tebyg a cofiwn nad oes gan yr Adran Drafnidiaeth ei hun record dda, o gofio’r smonach gyda masnachfraint y rheilffyrdd.
“Allai ddim gweld y rhesymeg dros symud y gwasanaeth o RAF y Fali a byddaf yn ysgrifennu at Patrick McLoughlin i fynegi fy mhryderon am y penderfyniad.”