Lluniau CCTV o'r dyn sy'n cael ei amau o'r ymosodiad
Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth i geisio dod o hyd i ddyn maen nhw’n ei amau o ymosod yn rhywiol ar ferch.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Walkabout yn Heol Yr Eglwys Fair rhwng 1.30yb a 2yb yn ystod oriau man bore dydd Sul, 3 Chwefror – yr un noson a gêm rygbi Cymru a’r Iwerddon ym Mhencampwriaeth y  Chwe Gwlad.

Roedd merch 20 oed allan  gyda’i ffrindiau yng nghanol y ddinas pan ymosodwyd arni’n rhywiol. Mae’r heddlu wedi cyhoeddi disgrifiad o’r dyn sy’n cael ei amau o’r ymosodiad – mae tua 6 troedfedd o daldra, gyda chroen eithaf tywyll a gwallt tywyll.

Mae’r lluniau camerâu cylch cyfyng yn dangos y dyn gyda rhywbeth tebyg i faner Cymru neu’r Iwerddon dros ei ysgwyddau.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sy’n adnabod y dyn, neu sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.