Mae Cabinet Ceredigion heddiw wedi cytuno’n unfrydol i wahardd plant y sir rhag aros gyda theuluoedd pan maen nhw’n mynd ar deithiau cyfnewid dramor.
Dan y cynlluniau, gafodd eu cyflwyno gan swyddogion yr adran addysg yn Chwefror 2012, fe fydd plant o dramor yn methu chwaith ag aros gyda theuluoedd yng Ngheredigion ac yn cael eu lletya ynghyd mewn hosteli.
Roedd swyddogion adran addysg Ceredigion wedi annog y Cabinet i dderbyn yr argymhelliad. Mae’r adran addysg wedi argymell fod plant yn treulio “peth amser” gyda theuluoedd fel rhan o’u hymweliadau dramor ond dim ond os yw’r plant yn ymweld â theuluoedd mewn parau.
Mae rhai ymweliadau cyfnewid eisoes wedi cael eu trefnu ond maen nhw wedi cael yr hawl i fwrw ymlaen dan yr hen drefn er mwyn osgoi cymhlethdod.
Ymateb y Cyngor
Mewn datganiad dywedodd y Cyngor: “Cytunwyd y dylid parhau i gynnal ymweliadau cyfnewid oherwydd y manteision mawr a gynigiant i’r plentyn ond y dylid hepgor yr elfen letyol dan sylw.
“Hefyd cytunwyd y dylai’r plant barhau i dreulio peth amser gyda theuluoedd fel rhan o’u hymweliad ond ddim yn aros dros nos. Bydd pob ymweliad cyfnewid newydd sydd wedi’i drefnu dros y 12 mis olaf yn gwneud defnydd o fathau eraill o lety, ac nid oes unrhyw ymweliadau wedi’u canslo neu’u methu yn sgil yr uchod.”
Mae’n debyg nad Cyngor Ceredigion yw’r unig un i gyflwyno polisi o’r fath – mae o leiaf dri chyngor sir arall – Blaenau Gwent, Castell-nedd Port Talbot, a Rhondda Cynon Taf – hefyd wedi mabwysiadu polisïau tebyg.
Effaith ar gefeilldrefi
Mae un cynghorydd sir yn anhapus iawn gyda’r cabinet am gymeradwyo’r polisi.
“Mae Ceredigion wedi gor-ymateb a rwy’n siomedig iawn,” meddai Elizabeth Evans, cynghorydd gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Aberaeron.
“Bydd hyn yn cael effaith fawr, ac eisoes wedi cael effaith fawr.
“Mae rhai o drefi Ceredigion wedi gefeillio gyda threfi yn Llydaw, ac yn yr Almaen. Mae’r cyfnewid gyda’r ysgolion nawr wedi bennu.
“Mae’r plant yn colli mas. Rhaid i blant gael profiad a nawr mae ysgolion yn mynd i Eurodisney.
“Pa brofiad yw hwnna iddyn nhw?
“Gofynnon ni i’r cyngor am dystiolaeth i gefnogi’r penderfyniad. Gaethon ni ddim byd.”
Mae Golwg360 wedi gofyn i Gyngor Ceredigion am ymateb.