Ieuan Wyn Jones
Mae llefarydd cyllid Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones wedi dweud y gallai Cymru wynebu toriadau gwerth £450 miliwn pe na bai Llywodraeth Prydain yn rhoi’r gorau i Fformiwla Barnett.

Mae Ieuan Wyn Jones AC yn ffafrio “system gyllido decach, sy’n seiliedig ar anghenion” ar gyfer Cymru.

Mae’n poeni y bydd cadarnhad ym mis Mehefin y bydd yna flwyddyn arall o doriadau fel rhan o Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr Llywodraeth Prydain, wrth i’r Glymblaid fwrw ymlaen gyda’u polisi o doriadau.

Pwerau benthyca

Mae’n dweud bod diwygio Fformiwla Barnett yn un ffordd o amddiffyn Cymru rhag system gyllido annheg.

Mae’r Fformiwla yn penderfynu sut mae gwariant cyhoeddus yn cael ei rannu trwy Brydain, yn ddibynnol ar boblogaeth pob rhan o’r Deyrnas Gyfunol.

Mae Ieuan Wyn Jones hefyd yn awyddus i fân drethi gael eu trosglwyddo i Gymru, yn ogystal â sicrhau pwerau benthyca i Lywodraeth Cymru fuddsoddi, ac i Lywodraeth Cymru gael rheoli prosiectau sy’n debygol o roi hwb economaidd i Gymru.

Dywedodd: “Os bydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn parhau â’u cynlluniau gwario am flwyddyn lem arall, yna caiff cyllideb Llywodraeth Cymru ei thorri o £450m arall.

“Arian yw hwnnw ddylai gael ei wario ar ysgolion, ysbytai a gwelliannau ffyrdd ar hyd a lled Cymru.

“Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio dro ar ôl tro yn erbyn toriadau gwariant fyddai’n niweidio economi Cymru.

“Gyda’r pwerau newydd hyn, a defnyddio cyfrwng buddsoddi ar batrwm Adeiladu i Gymru a gynigiwyd gan Blaid Cymru, gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio mwy o wariant seilwaith i helpu economi Cymru.

“Fodd bynnag, rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd fanteisio i’r eithaf ar y sefyllfa bresennol trwy ddwyn ymlaen brosiectau sy’n barod i gychwyn er mwyn rhoi sbardun i’r economi, gan ganolbwyntio ar welliannau i ysgolion, ysbytai a chynlluniau llai ar gyfer ffyrdd a rheilffyrdd.”