Leighton Andrews
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod agwedd Leighton Andrews at sefyllfa’r Gymraeg yn debyg i’r un yn Dad’s Army a’r waedd enwog “Don’t Panic!”

Roedd Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, yn siarad heddiw mewn cynhadledd ar y Gymraeg a’r Cyfrifiad ger Rhydaman, un o’r ardaloedd sydd wedi colli’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd ei groesawu i westy’r Mountain Gate, Tŷ Croes gan ymgyrchwyr yn dal baneri yn datgan: “Don’t panic – dim argyfwng iaith”

‘Adolygiadau niferus’

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Hyd yma mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiadau niferus ar sefyllfa’r Gymraeg a sefydlu comisiynau di-ben-draw.

“Dyna’n union ddigwyddodd ar ôl canlyniadau’r Cyfrifiad diwethaf, a ddaeth bron dim byd o’r holl adolygiadau bryd hynny. Yr hyn sydd angen gan y Gweinidog yw llai o ddweud a rhagor o wneud.

“Un o’r prif gyfleon oedd ganddo i wneud gwir wahaniaeth, oedd trwy gytuno i safonau Comisynydd y Gymraeg, a fe’u gwrthododd. Mae e wedi dewis ochri gyda sefydliadau a chwmniau mawrion yn hytrach na blaenoriaethu’r Gymraeg.”

Roedd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws ac Arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards ymhlith y siaradwyr yn y gynhadledd heddiw, gafodd ei threfnu gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg.

Ymhlith y pynciau dan sylw oedd allfudo-mewnfudo, pobol ifanc, addysg, yr economi a gweithleoedd.