Kevin Madge
Mae undeb Unsain wedi dweud bod agwedd arweinydd  Cyngor Sir Gaerfyrddin, Kevin Madge tuag at undebau llafur yn “warthus”.

Mewn llythyr agored, dywed ysgrifennydd cangen Sir Gaerfyrddin o Unsain, Mark Evans nad yw’r Cyngor Sir wedi gwneud ymdrech i ymgynghori gyda’r undebau llafur am eu bwriad i gyflwyno toriadau i wasanaethau cyhoeddus yn y sir.

Yn y llythyr, dywed Mark Evans: “Rydyn ni wedi cwrdd â swyddogion y Cyngor Corfforaethol ond dydyn ni ddim yn credu bod hyn yn cyfateb i ymgynghoriad ystyrlon pan nad ydyn ni’n cael y cyfle i gwrdd â chynghorwyr etholedig cyn iddyn nhw benderfynu lle fydd y fwyell yn disgyn ar wasanaethau pwysig, a hanfodol i’r gymuned mewn rhai achosion.”

Mae Mark Evans yn anhapus oherwydd bod y Cyngor Sir wedi cwrdd â Chyngor Cymuned Cwmaman, ond heb roi’r cyfle i undeb Unsain gyfrannu i’r trafodaethau.

‘Trin yr undebau gyda dirmyg’

Mae e wedi gofyn i arweinydd y Cyngor, Kevin Madge i gwrdd ag e i gynnal trafodaeth gyhoeddus ar yr angen am doriadau.

Dywedodd Mark Evans wrth Golwg360: “Dydyn ni ddim wedi cael unrhyw ymateb gan Kevin Madge. Mae hynny’n warthus.

“Mae’r Cyngor Sir yn trin yr undebau gyda dirmyg.

“Rydyn ni’n gwybod fod cynghorau eraill yn cwrdd â’r undebau. Byddai cyfarfod yn gyfle da i ddatrys nifer o faterion.

“Rydyn ni eisoes wedi cwrdd â nifer o gynghorwyr Llafur unigol sydd i weld o blaid cyflog byw mewn egwyddor, ond yn ystod dwy flynedd fel ysgrifennydd y gangen, dydw i erioed wedi cael cyfarfod gyda Kevin Madge.

“Mae hyn yn nodweddiadol o Gyngor Sir Caerfyrddin. Dydyn nhw jyst ddim yn ymdrechu i gysylltu.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Kevin Madge am ymateb.