Mae cylchgrawn Cymraeg i ddysgwyr wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr Adnoddau Dysgu, sy’n gwobrwyo’r adnoddau, sefydliadau ac athrawon gorau ym maes addysg.

Cafodd cylchgrawn yr Urdd, Bore Da, ei gydnabod fel un o’r goreuon, wrth gael ei henwebu yng nghategori’r adnodd dysgu cynradd orau.  Roedd 72 o geisiadau yn y categori, ac mae Bore Da wedi llwyddo i fod ymysg 7 o adnoddau ar y rhestr fer.

Dyma 15fed flwyddyn y gwobrau, sy’n cael eu cynnal gan Gymdeithas Cyflenwyr Addysg Prydain.  Bydd y seremoni wobrwyo eleni yn cael ei chynnal yn Birmingham, ar nos Wener 15 Mawrth.

‘Profi ein bod ni ar y trywydd iawn’

Mae Bore Da yn gylchgrawn Cymraeg i ddysgwyr cynradd, sydd wedi gweld ei gylchrediad yn cynyddu yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf.  Erbyn hyn, mae dros 4,500 yn derbyn y cylchgrawn, sy’n cynnwys storïau, posau, llythyrau a chartwnau, bob mis.

Dywedodd Manon Wyn, golygydd cylchgronau’r Urdd: “Mae’n dipyn o anrhydedd fod Bore Da wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr fer yn y gwobrau.   Roeddwn yn hyderus ein bod yn cynnig adnodd gwerth chweil gan fod mwy a mwy o ysgolion yn tanysgrifio i dderbyn y cylchgrawn bob mis, ond mae derbyn cydnabyddiaeth i’ch gwaith o’r tu allan yn profi ein bod ni ar y trywydd iawn!

“Rydym yn croesi bysedd y byddwn yn dod â gwobr adref gyda ni o Firmingham nos Wener nesaf!”