Llun: Gwefan Living Pictures
Non Tudur sy’n adolygu drama David Mamet,
Sexual Perversity in Chicago…

Echdoe, cefais un o’r nosweithiau brafiaf erioed yn y theatr. Drama gyfoes, ag iddi blot ac actio da, sgript ddeheuig, a digon o athronyddu am y cyflwr dynol i droelli cogiau’r meddwl am sawl diwrnod.

Digwydd bod, roedd y dramodydd dan sylw wedi ennill gwobr Pulitzer ac Oscar am ei waith sgrifennu i’r theatr ac i fyd ffilm. Enw David Mamet oedd wedi denu, nid yr enw brawychus o risqué, Sexual Perversity in Chicago – er rhaid cyfaddef bod hwnnw wedi codi chwilfrydedd. Wrth sgwrsio ag un o’r actorion ar ôl y cynhyrchiad, dywedodd efallai bod enw’r ddrama hon yn cadw ambell un draw.

Cwmni bach Cymreig Living Pictures (ar y cyd â Cegin Productions) sy’n gyfrifol am addasu drama David Mamet o 1976. Cwmni un o gyfarwyddwyr amlycaf Cymru, Elen Bowman, a’i gŵr, y Gwyddel Robert Bowman, yw Living Pictures.

Robert ei hun sy’n chwarae un o’r pedwar cymeriad, Bernie – ryw hwrdd o ddiotwr boliog, sy’n dwyn y sioe (er gwaetha’r olygfa ofnadwy o letchwith honno lle mae’n cyflawni gweithred aflednais).

Comedi tywyll yw hi, ychydig dros awr o hyd, wedi’i gosod yn Chicago yn y 1970au, yn edrych ar berthnasau rhwng ffrindiau a’u hymdrechion anobeithiol i ddod o hyd i gymar. Mae dadleuon a straeon digri’ Bernie am ferched yn codi gwên drwy’r ddrama, ond wrth gwrs mae’r jôcs ‘diniwed’ yma am fronnau a ‘snatch’ yn ymylu ar y truenus a’r peryglus – ac yn ein hatgoffa bod agweddau fel hyn yn dal i fodoli heddiw, a phornograffi yn llawer haws i’w gaffael nag yn ’76.

Yn anffodus, mae Bernie â’i gulni yn dylanwadu’n drwm ar ei fêt di-niw o’r gwaith, Danny (Ioannis Sholto) sy’n ceisio’i orau glas i gynnal perthynas â Deborah, darluniwr deallus a phert. Oddi wrth Deborah y daeth un o linellau gorau’r ddrama, i’r ffraeo rhyngddi hi a Danny boethi, a mynd y tu hwnt i reolaeth: ‘You’re trying to understand women and I’m confusing you with information! What are you feeling? Tell me what you’re feeling. Jerk.’

Rhaid canmol y ddwy actores – Lizzie Rogan fel Deborah a Claire Cage fel Joan, yr athrawes arswydus o chwerw – am eu perfformiadau.

Weithiau, jest weithiau, mae hi’n beth braf ofnadwy cael gwylio drama draddodiadol ‘go iawn’, strêt – heb drapîs na thafluniad nag iPad yn agos, er mor ddiog y bo hynny mewn ffordd. Mae hi’n bwysig i ni wthio ffiniau o ran cyfrwng y theatr, ac i’r gynulleidfa brofi gwefr newydd, ond weithiau mae eisiau i ni glywed gwaith lle mae’r geiriau yn gwneud yr acrobatics ac nid y cynhyrchu.

Mae sgript dda yn gallu gwneud yr ymdrech i fentro ar noson oer i’r theatr yr un mor foddhaus â darllen chwip o nofel gyhyrog o flaen y tân adre.

A’r prif  beth yr oedd rhywun yn ei feddwl oedd ymhle mae dramodwyr geiriol da fel Mamet yn y Gymraeg, heddiw? Brysied y Dafydd James nesaf.

Braf yw clywed canmol cynnar ar gyfer Dyled Eileen – drama Angharad Tomos ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru i gofio am aberth fawr Eileen Beasley dros yr iaith, a ddechreuodd ar ei thaith yn Llanelli nos Fawrth. Rhian Morgan sy’n chwarae rhan Eileen Beasley, ‘mam gweithredu uniongyrchol.’

Roedd yna rai oedd yn credu y dylai cynhyrchiad diwethaf y Theatr Genedlaethol – Y Bont – fod wedi bod yn ddrama “go iawn” gonfensiynol ei ffurf, ond eto wedi’u plesio gan fentergarwch Arwel Gruffydd a’r criw ar y diwrnod.

Mae Dyled Eileen yn gyfle i’r rheiny ohonoch sydd am ddychwelyd i glydwch theatr gonfensiynol am y tro, ac eistedd lawr am awr neu ddwy mewn tywyllwch, a chanolbwyntio ar eiriau a syniadau.

  • Mae Sexual Perversity in Chicago yn y Ffwrnes Llanelli nos Iau, Mawrth 7
  • Taith Dyled Eileen:

06 Mawrth 2013 Canolfan Celfyddydau Pontardawe

01792 863722

07 Mawrth 2013 Theatr y Gromlech, Crymych

01239 831455

08 Mawrth 2013 Theatr Felinfach, Ceredigion

01570 470697

11 Mawrth 2013 Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

01978 315050

12 Mawrth 2013 Neuadd Dwyfor, Pwllheli

01758 704088

13 Mawrth 2013 Theatr Twm o’r Nant, Dinbych

01745 812349

14 Mawrth 2013 Galeri Caernarfon

01286 685222

18 Mawrth 2013 Gartholwg, Pentre’r Eglwys

01443 219589

19 Mawrth 2013 Theatr Soar, Merthyr Tudful

01685 722176

20 Mawrth 2013 Sherman Cymru Caerdydd

029 2064 6900 8pm

21 Mawrth 2013 Sherman Cymru Caerdydd

029 2064 6900 1:30pm & 8pm

22 Mawrth 2013 Sherman Cymru Caerdydd

029 2064 6900 8pm