Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymuno â grŵp o sefydliadau amlwg eraill i alw am newidiadau sylweddol i gyfraith arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gynaliadwyedd.

Mae’r grŵp yn  pryderu bod cynigion diweddaraf y Llywodraeth yn rhy wan i gyflawni’r addewidion beiddgar a wnaethpwyd gan weinidogion.

Ymhlith y sefydliadau sy’n rhan o’r grŵp i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru mae Masnach Deg Cymru, Cyfeillion y Ddaear Cymru, Oxfam Cymru, RSPB Cymru a WWF Cymru.

‘Y Gymraeg yn ganolog’

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd yn gweithio ym maes yr amgylchedd:

“Rydan ni’n falch iawn fel mudiad o allu cyd-weithio gydag eraill er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i’r Mesur hwn, yn ogystal â sicrhau tegwch yn ehangach i’n hamgylchedd, ein cymunedau a’n heffaith fel gwlad ar y byd.

“Does dim amheuaeth bod y Gymraeg a’i chymunedau yn dioddef oherwydd penderfyniadau awdurdodau sy’n milwrio yn ei herbyn. Bydden ni’n gweithio o fewn y gynghrair i sicrhau bod cymunedau cynaliadwy Cymraeg a’r iaith yn ehangach yn elwa o’r ddeddfwriaeth arfaethedig.”