Castell Caerdydd lle bydd Ffair Tafwyl yn cael ei chynnal
Mae Gŵyl Gymraeg a gollodd £20,000 o nawdd gan y cyngor lleol yn cael ei lansio’n swyddogol yfory.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru £20,000 i Tafwyl ar ôl i Gyngor Caerdydd ddweud bod yn rhaid iddyn nhw wneud toriadau gwariant.

Cafodd penderfyniad Llywodraeth Cymru i lenwi’r bwlch ariannol ei gyhuddo gan y gwrthbleidiau o fod yn ffafriaeth tuag at gyngor Llafur, ond mae’r Gweinidog Leighton Andrews wedi mynnu ei bod hi’n bwysig creu “cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd cymdeithasol” a bod yr ŵyl yn cyd-fynd â strategaeth iaith Gymraeg y Llywodraeth.

Bydd Leighton Andrews yn bresennol yn y lansiad yfory yn Stori Caerdydd yn yr Hen Lyfrgell, ynghyd â’r gyflwynwraig Angharad Mair. Bydd y gantores Casi Wyn yn perfformio yno.

Arddangosfa o fywyd Cymraeg y ddinas

Mae’r ŵyl ei hun yn cael ei chynnal rhwng 14 a 21 Mehefin ac yn cynnwys noson gomedi, gigs ieuenctid, digwyddiadau i ddysgwyr a Ffair Tafwyl yng nghastell Caerdydd.

“Mae Tafwyl yn mynd o nerth i nerth,” meddai Siân Lewis Prif Weithredwr Menter Caerdydd.

Yn ogystal â lansio Tafwyl, bydd arddangosfa o fywyd Cymraeg y ddinas ddoe a heddiw yn cael ei lansio yfory yn Stori Caerdydd, dan yr enw Byw yn y Ddinas.